Rhoddodd y Gleision y perfformiad gorau erioed yn eu hanes yn erbyn Caerloyw yn y chwarteri - ac efallai'r perfformiad gorau erioed gan un o ranbarthau Cymru yn eu hanes byr.
Doedd Caerloyw ddim wedi helpu eu hachos eu hunain o gwbl ond byddai'r ffordd y gwnaethon nhw drafod y bêl, creu onglau effeithiol a dangos clyfrwch meddwl, cyflymdra a chryfder wedi bod yn ddigon ar y diwrnod i guro tîm rhyngwladol hyd yn oed. Roedd yn un o'r dyddiau hynny pan wnaeth y cyfan dycio. Yn anaml iawn mae hynny'n digwydd.
Bydd Teigrod Caerlŷr yn gwylio tâp o'r gêm honno ac yn anwybyddu llawer o'r chwarae pert gan gymryd cysur mewn un digwyddiad, cais cosb o sgrym i Gaerloyw. Yn y sgrym mae gwendid y Gleision a dyna yw cryfder y Teigrod.
Gallwch ddisgwyl i Gaerlŷr roi digon o chwaraewyr yn ardal y dacl gan arafu pob ryc posibl a cheisio eu troi'n sgrymiau. Byddant yn troi pob opsiwn posibl yn sgrym. Gallwch ddisgwyl iddynt ddefnyddio'r bêl uchel gan obeithio y bydd y Gleision yn cam-drafod a byddant yn cicio i'r ystlys i osgoi gwrthymosod effeithiol y Gleision.
Bydd y Gleision yn hyderus y gallan nhw ennill y gêm beth bynnag fydd patrwm y chwarae. Mewn tair gêm wahanol, yn erbyn Northampton, Toulouse a Chaerloyw, maen nhw wedi chwarae mewn arddulliau gwahanol. Maen nhw wedi ennill pob un o'r tair gêm.
Rwyf hefyd yn credu bod y Gleision yn gallu ateb yr her. Mae yna ryw sicrwydd a hyder yn eu chwarae. Beth sydd wedi trawsnewid nhw'n dîm sy'n deall sut i ennill, mae'n anodd dweud. Ond maen nhw wedi dysgu gwersi.
Mae'r amser yn iawn i'w chwaraewyr nhw. Mae'r rheolau newydd yn eu siwtio ac mae yna deimlad o undod a brawdoliaeth yn y tîm. Dwi'n rhagweld buddugoliaeth galed i'r Gleision. Y wobr fydd y cyfle i greu hanes drwy guro Munster yn y ffeinal.
Mae'n amser i gnoi ewinedd yn y Cwpan Heineken ac mae gan Gymru ddau dîm sydd â'r gallu i gyrraedd y rownd nesaf. Rydym wedi dweud hyn sawl gwaith yn y gorffennol a'r broblem yw bod y timau wedi methu cyrraedd y nod er gwaethaf eu hymdrechion.
Mae'n bosib gall hwn newid y tymor hwn gyda'r Gleision a'r Gweilch ar bapur o leiaf, yn ddigon da i gyrraedd y rownd gynderfynol.
Mae yna garfan dda iawn yma ar y foment gyda chryfderau ym mhob safle. Dyma'r un garfan a chwaraeodd y tymor diwethaf, heblaw am Leigh Halfpenny, felly pam maen nhw i'w gweld yn wahanol t tymor hwn?
Rwy'n amau mai'r gwahaniaeth yn yr agwedd sydd wedi achosi'r gwelliant. Mae'r ochr fregus, a arferai ddod i'r amlwg yng ngemau allweddol y Gleision, yn enwedig y gemau oddi cartref, bellach wedi diflannu. Mae eu hagwedd nawr yn llawer mwy penderfynol.
Y tro hwn, mae'r Gleision wedi ennill allan yn Biarritz ac yn Kingsholm yn erbyn Caerloyw. Yn y ddwy gêm yna, doeddwn nhw ddim yn edrych fel eu bod am golli, tra yn y gorffennol, doeddwn ddim yn edrych fel tîm a oedd yn debyg o ennill.
Er gwaethaf hynny, mae gen i ddau bryder am y Gleision. Yn gyntaf, mae'r sgrym ac yn benodol y prop pen tynn yn wendid posib. Mae timau sy'n dda yn y sgrym wedi dinistrio nhw ar adegau. Y llall yw'r mewnwr. Mae Jason Spice yn chwaraewr sydd weithiau yn gallu colli rheolaeth ar bethau. Bydd yn rhaid i rif 3 a 9 fod ar eu gorau ddydd Sadwrn.
Mae'n anodd gwybod lle i ddechrau gyda'r Gweilch. Does neb yn cwestiynu talentau unigol y chwaraewyr a'r ysfa i lwyddo. Mae ymrwymiad y bechgyn yn ddiguro fel arfer ac mae'r awch i lwyddo yn amlwg yn ystod y gemau mawr. Ond faint o weithiau rydyn ni'n dweud hynny yn y gorffennol?
Dros yr wythnosau diwethaf, mae'r amddiffyn blitz wedi edrych braidd yn fregus. Mae ciciau da ar draws y cae wedi gwneud y tîm i edrych yn fregus. Gwnaeth O'Gara fanteisio ar y gwendid tu ôl i'r asgellwyr yn erbyn Cymru mwy nag unwaith a gwnaeth Caerloyw yr un peth yn rownd gynderfynol Cwpan EDF yn erbyn y Gweilch.
Bydd angen i'r Gweilch amrywio'r tactegau ar brynhawn Sul gan ei bod yn eitha' hawdd rhagweld patrwm eu chwarae ar hyn o bryd. Wrth ymosod dyw'r tîm ddim bob amser wedi edrych fel eu bod yn cydweithio'n dda. Bydd yn rhaid iddyn nhw Gydlynu pethau'n well i dorri amddiffyn Munster.
Dyma foment fawr James Hook. Gall perfformiad meistrolgar ganddo olygu cyfle iddo chwarae gyda'r Llewod yn yr haf. Mae'n rhaid iddo brofi i bawb, gan gynnwys ei hun, fod ganddo'r gallu i chwarae maswr ar y lefel ucha'.
Mae'n amser imi ddarogan pwy fydd yn ennill dros y penwythnos. . Mae'r rhai ohonoch sydd wedi llwyddo i ddarllen i ddiwedd fy erthyglau dros y blynyddoedd wedi sylwi fy mod wedi bod yn anobeithiol yn ddiweddar wrth ddyfalu'r enillwyr. Ond mae yna newid wedi bod yn ddiweddar. Ar ôl curo Johnny bach yn nabl darogan Scrum V y llynedd, llwyddais i gyrraedd brig tabl darogan S4C eleni. Ar hyn o bryd rwy'n cael cryn dipyn o hwyl arni.
Rwy'n darogan bydd y Gleision yn ennill o bum pwynt a'r Gweilch yn colli.
Mae'r Cwpan Heineken yn dychwelyd dros y penwythnos gyda rownd yr wyth olaf. Bydd holl uchafbwyntiau'r gemau i'w gweld yn egscliwsif ar deledu daearol ar S4C.
Bydd dau o ranbarthau Cymru - y Gweilch a'r Gleision - yn y cymal yma o'r gystadleuaeth, ond mae'r llwybr i gyrraedd yma wedi bod yn dra gwahanol i'r ddau dîm.
Tra bod y Gweilch wedi llwyddo i ennill lle yn y chwarteri ar ôl sicrhau'r ail safle gorau yn y rownd gyntaf, dyw'r Gleision heb golli yn y gystadleuaeth y tymor hwn.
Mae Nicky Robinson, maswr y Gleision, yn credu fod carfan y Gleision yn cymharu'n dda gyda thimau gorau Ewrop. A pha well ffordd i ddangos hynny na thrwy godi'r Cwpan Heineken am y tro cyntaf?
"Rydym ni wedi cyrraedd yma gyda thamaid bach o lwc a lot o fomentwm yn ystod y gemau. Roedd y fuddugoliaeth yn erbyn Caerloyw yn Stadiwm y Mileniwm yn yr hydref yn brofiad anhygoel gyda phawb yn y garfan yn mwynhau chwarae ar y cae. Wrth inni gadw ennill y gemau, roedd yr hyder yn tyfu," esbonia Nicky, sy'n gadael y Gleision ar ddiwedd y tymor i ymuno â Chaerloyw.
Ond Toulouse, tîm sydd wedi ennill y gystadleuaeth dair gwaith yn y gorffennol, yw'r her anferth i'r Gleision wrth iddynt geisio ennill lle yn y rownd gynderfynol.
Meddai Nicky, 27, "Dyma gyfle i ddangos i bobl beth ni'n gallu gwneud. Mae'n rhaid inni berfformio ar y dydd - mae talent a phrofiad gyda ni yn y garfan ac ry'n ni wedi dysgu lot wrth chwarae gyda'n gilydd yn ystod y tymhorau diwethaf.
"Mae yna deimlad yn y garfan ein bod yn gallu mynd ymlaen at y ffeinal - does dim rheswm dros beidio!" ychwanega.
Gareth Roberts, Arthur Emyr a Gwyn Jones fydd yn cyflwyno'r rhaglenni uchafbwyntiau ar nos Sadwrn a nos Sul, a bydd Eleri Siôn yn ymuno ag Arthur a Gwyn gyda rhaglen arbennig yn edrych yn ôl ar gystadlu brwd y penwythnos nos Lun.
Mae'r Cwpan Heineken yn dychwelyd i S4C dros y penwythnos gydag uchafbwyntiau daearol egscliwsif o gemau rownd agoriadol cystadleuaeth 2008/09.
Bydd y rhaglenni, a ddarlledir nos Sadwrn, 11 Hydref, nos Sul, 12 Hydref, a nos Lun, 13 Hydref, yn cynnwys uchafbwyntiau o gemau agoriadol y pedwar rhanbarth Cymraeg, yn ogystal â'r gorau o'r gystadleuaeth.
Drwy gydol y tymor, bydd Arthur Emyr a Gareth Roberts yn cyflwyno uchafbwyntiau'r Cwpan Heineken nos Sadwrn a nos Sul, gydag Arthur yn ymuno ag Eleri Siôn a Gwyn Jones nos Lun i edrych yn ôl a dadansoddi holl gystadlu'r penwythnos.
Bydd y pedwar rhanbarth yn cystadlu'n frwd y penwythnos hwn. Bydd y Sgarlets yn herio'r Harlequins, y Gweilch yn teithio i Gaerlŷr, y Gleision yn chwarae Calvasino, a'r Dreigiau yn croesawu Glasgow i Barc Rodney.
Meddai Geraint Rowlands, Golygydd Cynnwys Chwaraeon S4C, "Dyma'r brif gystadleuaeth rygbi y tu allan i'r llwyfan rhyngwladol ac mae pob un gêm o bwys, gyda'r byd yn gwylio."
Bydd y Gweilch yn teithio i Welford Road brynhawn Sul i herio Caerlŷr a bydd y gorau o'r gêm ar gael i wylio ar S4C nos Sul am 7.30pm.
Capten y Gweilch, Ryan Jones, Shane Williams a'r hyfforddwr Sean Holley sy'n edrych ymlaen yn fawr at y frwydr.
"Mae'n anodd iawn i fi ac i Jonathan (Humphreys, cyd-hyfforddwr) ar hyn o bryd i ddewis carfan gan fod yna gystadleuaeth ffyrnig ar gyfer pob safle. Bydd yna awyrgylch danllyd ar y maes chwarae ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn arw at y frwydr. Rydyn ni wedi delio gyda'r golled yn erbyn y Saraseniaid yn y rownd gogynderfynol y tymor diwethaf er ei fod yn anodd dygymod â'r siom ar y pryd, ond mae gan y garfan lot mwy o brofiad erbyn hyn."
"Rwy'n hyderus iawn. Rwy'n gwybod beth sydd yn ein hwynebu dros y penwythnos - tîm arbennig o dda sydd wastad yn gwneud yn dda mas yn Ewrop ac sydd hefyd yn gryf yn chwarae ar eu cae eu hunain yn Welford Road. Rydym ni'n gwybod y bydd Caerlŷr yn cynnig her fawr, ond y cwestiwn yw - ydyn ni'n ddigon dda i ennill yno, ac rwy'n credu ein bod ni.
"Bydd yn rhaid i ni fynd lan i Welford Road yn meddwl ein bod ni'n gallu ennill y gêm. Rydym wedi maeddu nhw o'r blaen a bydd yn rhaid inni chwarae'r un peth eto. Os ry'n ni'n gwneud hynny, ni'n gwybod ein bod ni'n gallu ennill y gêm yma.
"Rwy'n disgwyl ymlaen yn fawr at y gystadleuaeth. Chi'n gwybod unwaith bod y Cwpan Heineken yn dechrau, chi'n chwarae yn erbyn y timau gorau yn Ewrop. S'dim ots pa dimau sydd yn y grŵp, maen nhw i gyd yn gemau caled. Mae'n rhaid i chi ymdopi a hynny ac mae'n rhaid i chi fod yn barod achos mae safon y rygbi yn codi a dim ond y timau gorau sy'n mynd trwyddo. Rydyn ni'n barod am yr her. Rydyn ni wedi gweithio'n galed yn y Magners ar ddechrau'r tymor ac er ein bod ni ychydig yn siomedig gyda'r perfformiad yn yr EDF wythnos diwethaf yn erbyn Harlequins, rydyn yn barod i fynd lan i Welford Road ac ennill."
"Dyma'r cyfnod mwyaf cyffrous yn y calendr rygbi ac mae gyda ni gêm gyffrous yn erbyn Caerlŷr oddi cartre' a dylai hyn fod yr hysbyseb orau un ar gyfer rygbi Ewropeaidd. Erbyn hyn mae ein gemau yn erbyn Caerlŷr wedi magu tipyn o hanes a thraddodiad ac maen nhw'n gystadleuol tu hwnt. Mae gan Gaerlŷr draddodiad anhygoel ac mae'r bechgyn bob tro yn edrych ymlaen yn fawr at y gêm hon."
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales