S4C

chwaraeon

Ffeit Gyntaf Amy

Amy Williams yn pigo ffeit ar S4C

Ar yr olwg gyntaf, does dim i wahaniaethu Amy Williams o unrhyw fam ifanc arall o Bort Talbot. Ond heblaw am eisiau'r gorau i'w phlant mae gan Amy, 28 oed, ddwy freuddwyd. Mae hi'n dymuno adeiladu ar ei gyrfa rhan amser fel model ac mae hi eisiau bocsio'n broffesiynol.

Yn y gyfres ddwy raglen, Ffeit Gyntaf Amy, sy'n dechrau nos Lun, 20 Chwefror ar S4C, cawn ddilyn Amy wrth iddi geisio cyflawni ei breuddwyd o gamu i mewn i'r cylch ac ymladd go iawn.

Mae Amy yn gweithio i SgilCymru ac yn y rhaglen gyntaf gwelwn sawl ochr i'w phersonoliaeth. Mae hi'n gweithio'n galed, yn fam gariadus ac yn mwynhau diwrnod fel model ffasiwn ar gyfer ffotograffydd o Gaerdydd. Ond trwy gydol hyn i gyd, mae hi'n hyfforddi'n drwm, trwy'r dydd a'r nos, er mwyn cyrraedd ei nod o fod yn focswraig amatur.

"Dwi 'di trial pob math o chwaraeon - rygbi, pêl-droed, nofio, rhedeg, ond dwi wedi sticio at y bocsio," meddai Amy. "Mae ymladd yn rhoi 'buzz' i fi, ac mae cynnal fy ffeit gyntaf yn fy ngalluogi i brofi i fy hun pa mor dda dwi'n gallu bod.

"Mae bocsio, gweithio a bod yn fam i ddau blentyn yn golygu cymaint o ymrwymiad amser ac egni wrtha i - ac weithiau mae e'n gallu bod yn anodd, yn enwedig os nad yw pethau yn digwydd fel dwi wedi eu cynllunio.

"Fel y gwelwch yn y rhaglen, mi ro'n i'n agos iawn at roi'r gorau i focsio, oherwydd doedd dim sôn am unrhyw focswraig arall i ymladd yn ei herbyn, felly roeddwn i'n teimlo fel petawn i'n gwastraffu fy amser. Ond roedd fy nheulu yno i fy nghefnogi pob cam o'r ffordd, ac roedd hwnna'n help mawr."

Cawn gyfarfod y bobl sydd agosaf at Amy, a chlywn eu teimladau hwy tuag at ei champ, yn cynnwys y rhai sydd yn ei chymeradwyo a'r rheiny sydd yn teimlo'n fwy nerfus am y syniad o focsio.

Mae'r rhaglen yma hefyd yn cynnig cipolwg y tu ôl i lenni'r gamp galed, beryglus yma. Fe wnawn ddarganfod y teimlad o gymuned, y ddisgyblaeth, ffitrwydd, a'r bwrlwm sydd ynghlwm â bocsio amatur Cymru wrth i ni wylio menyw ifanc yn ymdrechu i ddod yn rhan ohono.

Yn yr ail raglen yr wythnos ganlynol, mae stori Amy yn parhau a gwelwn ei phenderfyniad i gynnal ei ffeit gyntaf yn y cylch yn cryfhau, ond mae Mam-gu yn poeni am ei diogelwch. A fydd Amy yn cyrraedd ei nod o'r diwedd?