Mae Golffio yn dychwelyd i S4C gyda mwy o'r gamp nag erioed o'r blaen.
Yn gyntaf, bydd uchafbwyntiau dyddiol o Bencampwriaeth Merched Ewrop Cymru S4C, sy'n cael ei chynnal yng Nghlwb Golff Conwy o 12-15 Awst, gyda'r rownd olaf yn fyw ar y prynhawn dydd Sul.
Mae'n flwyddyn arbennig i golff yng Nghymru wrth i Gasnewydd gynnig llwyfan rhyngwladol i brif gystadleuaeth golff y byd, y Cwpan Ryder 2010. Mae disgwyl i gannoedd o filoedd o gefnogwyr y gamp deithio i Gymru i ddilyn y cystadlu o 28 Medi-3 Hydref a bydd camerâu Golffio yno hefyd i ddarlledu'r cyfan.
Meddai Llinos Lee, o dîm cyflwyno Golffio, "Mae'r Cwpan Ryder yn rhywbeth rydyn ni i gyd wedi bod yn siarad amdano ers dros 2 flynedd ac rwy'n edrych ymlaen at gael cyflwyno o'r cwrs yn y Celtic Manor. Dyma'r tro cyntaf i'r gystadleuaeth fod ar ein stepen drws ac mae'n achlysur syfrdanol."
Bydd Llinos a'r tîm yn dilyn y chwaraewyr bob cam o'r ffordd hyd y Cwpan Ryder. Bydd golffwyr o Ewrop a'r UDA yn brwydro am le yn eu timoedd a chanwn glywed cyhoeddiad Colin Montgomerie wrth iddo enwi aelodau Tîm Ewrop.
Cyn hynny, bydd Golffio yn darlledu o'r prif gystadlaethau i ddynion a merched o Gylchdaith Ryngwladol Ewrop, PGA yr Unol Daleithiau a Chylchdaith Ewropeaidd y Merched.
Meddai Siôn Bebb, y golffiwr proffesiynol fydd yn rhan o'r tîm cyflwyno, "Bydd mis Awst a mis Medi'n bwysig o ran penderfynu pwy fydd yn y tîm a phwy na fydd. Rhys Davies yw ein gobaith gorau yng Nghymru.
"Bydd lot o golff yn cael ei chwarae rhwng nawr a'r hydref . Pwy bynnag sy'n chwarae yn y Cwpan Ryder, bydd diwedd y gystadleuaeth yn agos iawn a'r tyllau olaf yn siŵr o gynnig drama a chyffro i'r gwylwyr gartref."
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales