Dilynwch antur stormus merch o'r Bala wrth iddi brofi tywydd eithafol a pheryglon bywyd ar y môr wrth gystadlu yn y ras gefnfor enwog, Ras Cwch y Clipper o Amgylch y Byd 11/12.
Yn y gyfres ddwy ran, Hwylio'r Byd, sy'n dechrau nos Fawrth, 15 Mai byddwn yn dilyn Elin Haf Davies wrth iddi baratoi am un o rasus anoddaf y byd gan dreulio 30 diwrnod ar foroedd gwyllt a theithio dros 6,000 o filltiroedd.
Nid dyma'r tro cyntaf i Elin frwydro yn erbyn amodau gwael ar y môr. Yn 2007 fe wnaeth hi rwyfo dros Gefnfor yr Iwerydd ac mae ei hanturiaethau eisoes wedi codi dros £250,000 er budd elusennau plant.
"Roeddwn i'n 30 oed yn mynd ar y môr am y tro cyntaf. Daeth y penderfyniad i fynd i rwyfo Môr yr Iwerydd allan o unlle. Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl cyn cychwyn, ac ar ôl 77 diwrnod ar yr Iwerydd roeddwn i'n gwybod bod anturiaethau ar y môr yn apelio," esbonia Elin, sy'n codi arian y tro yma er budd Apêl Arch Noa, elusen swyddogol Ysbyty Plant Cymru.
Dechreuodd ras y Clipper yn Southampton nôl ym mis Awst 2011. Ers hynny, mae'r cystadleuwyr wedi croesi a goroesi prif foroedd y byd ac wedi docio yn Ne Affrica, Awstralia, Singapore, Seland Newydd, Brasil a Madeira.
Mae'r ras wedi'i rhannu'n wyth cymal ac fe ymunodd Elin â'i thîm ar gyfer chweched cymal y gystadleuaeth - ar hyd y Cefnfor Tawel o Quingdao i San Francisco.
"Roedd y Cefnfor Tawel yn beryglus iawn. Am 30 diwrnod fuodd 'na ddim awyr las, dim heulwen, ac roedd y tonnau enfawr bygythiol yn barhaol," meddai Elin.
"Mae'n anodd egluro'r llwydni sydd mewn sefyllfa felly. Mae'n gwbl barhaol rhwng yr awyr a'r môr ac mae o'n dwyn dy egni a dy frwdfrydedd di. Mae'n anhygoel sut mae'r 'chydig leiaf o heulwen yn gallu rhoi hwb i ti."
Cafodd gwylwyr S4C flas o'i hantur yn y ffilm fer Calon: Hwylio'r Byd ar ddechrau Mawrth. Ond yn y gyfres newydd, cawn ddilyn paratoadau manwl Elin cyn y ras o China i Arfordir Gorllewinol yr UDA. Yn ogystal, bydd camerâu cwmni teledu Telesgop yn hwylio ar y tonnau gydag Elin a chriw'r cwch i gofnodi'r antur wlyb a gwyntog.
Ond tra bod Elin â'i thraed 'nôl ar y tir erbyn hyn, mae'r ras yn parhau. Gyda thywydd yn caniatáu, mi fydd disgwyl i ras gyflawn y Clipper ddod i ben ar 31 Gorffennaf yn yr un fan ag y cychwynnodd.
Am fwy o wybodaeth am y ras, am luniau a phroffil o Elin, ewch i wefan cynhwysfawr y gyfres - s4c.co.uk/hwyliobyd