Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Jonathan

Mae Jonathan Davies, Rowland Phillips a Nigel Owens ac Alex Jones yn mwynhau hwyl Pencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni mewn cyfres saith rhan.

Sialensiau

Yn y rhaglenni, bydd Jonathan, Rowland a Nigel yn dangos eu hochr gystadleuol wrth iddyn nhw roi tro ar sialensiau corfforol bob wythnos fydd yn dangos p'un o'r tri yw'r gryfa a phwy sydd yn loncian tu ôl.

Facebook

Mae modd hefyd i weld fideos tu ôl i'r llen yn wythnosol ar Facebook. Ymuna â grŵp Jonathan ac i weld y deunydd ychwanegol.

Gwesteion

Yn ogystal â hyn, bydd Jonathan a'r criw yn sgwrsio â gwesteion arbennig ac fe fyddan nhw'n cymryd rhan yn yr eitem boblogaidd 'Ar y Pyst'.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales