S4C

Close
Flash is required to view this video

chwaraeon

Marathon Eryri

Mae Marathon Eryri yn ôl, ac yn dathlu pen-blwydd arbennig iawn

Mae hi'n flwyddyn fawr i S4C wrth i'r Sianel baratoi i ddathlu ei phen-blwydd yn 30 yr hydref hwn, ond nid S4C yn unig sydd yn paratoi am ben-blwydd arbennig.

Eleni, fe fydd Marathon Eryri hefyd yn 30 oed ac mae'r ras fynyddig yr un mor gyffrous heddiw a'r ras gyntaf honno 'nôl ym 1982.

Tybed beth yw apêl y ras hon i gymaint o bobl, yn rhedwyr proffesiynol a rhedwyr hamdden fel ei gilydd?

"Cefnogaeth y bobl leol yw'r prif ffactor dybiwn i," meddai Jane Lloyd, rhedwraig a threfnydd y ras ers 2004. "Mae'r adborth a ddaw gan y rhedwyr yn anhygoel, maen nhw'n rhyfeddu at gefnogaeth a chroeso'r bobl leol bob blwyddyn. Mae'r ras yn fwyfwy poblogaidd bob blwyddyn hefyd, mae 2200 yn rhedeg eleni. Mae cael lle yn y ras fel ennill tocyn i weld gêm fawr yn yr uwchgynghrair!"

Y gohebydd chwaraeon Morgan Jones fydd yn dod â holl hynt a helynt y ras yn rhaglen Marathon Eryri 2012 ar S4C nos Sul, 28 Hydref yng nghwmni Nic Parry a Dafydd Whiteside Thomas a fydd yn sylwebu wrth ddilyn y rhedwyr ar eu taith.

"Dwi'n edrych ymlaen at fod yn rhan o'r bwrlwm unwaith eto eleni," meddai Morgan Jones, sy'n cyflwyno'r rhaglen am y bumed flwyddyn eleni. "Does dim teimlad tebyg i'r tensiwn a'r disgwyliad sydd ymysg y rhedwyr a'r dorf ar fore'r ras."

O uchelfannau Pen y Pass, lawr i Ben y Gwyryd a hyd at ddiwedd y daith yn Llanberis, bydd y rhaglen yn dilyn y rhedwyr ar hyd llwybrau hynod heriol y ras 26.2 milltir gan ddal golygfeydd godidog ar y ffordd.

Mae'r marathon yn cael ei ystyried fel un o'r cyrsiau rhyngwladol caletaf yn y calendr rhedeg rhyngwladol ac mae Morgan yn gwybod hynny gystal â neb. "Dwi wedi rhedeg llwybr y marathon yma fy hun ac felly mi alla i siarad o brofiad. Mae'r ffasiwn her gorfforol yn denu'r rhedwyr - nid Marathon Llundain mohono, nid Marathon Paris - mae Marathon Eryri yn gwthio rhedwyr i'r eithaf, mae'r pum milltir gyntaf i gyd fyny'r allt! Does dim teimlad tebyg i'r boddhad a ddaw ar ôl cwblhau sialens o'r fath." Er hynny mae'n amlwg bod hon yn sialens mae rhedwyr yn ei mwynhau; enwebwyd Marathon Eryri fel Marathon Gorau Ynysoedd Prydain unwaith eto'r llynedd gan ddarllenwyr cylchgrawn Runners World.

O'r chwiban gyntaf hyd at y llinell derfyn, ymunwch ag S4C i weld straen, chwys, gwefr a gorfoledd Marathon Eryri 2012.