Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Marathon Eryri 2010

Mae Eryri yn un o leoliadau mwyaf prydferth y wlad gyda chefnlen odidog ac yn gartref i gopa uchaf Cymru, Yr Wyddfa. Ond bydd y poen a'r adrenalin yn amlwg a'r golygfeydd yn ddibwys wrth i ni ddilyn hynt a helynt ras galetaf Ewrop, Marathon Eryri.

Bydd y cwrs yn cynnig her o'r radd uchaf. Bydd yn rhaid i'r rhedwyr ddringo i uchelfannau'r mynyddoedd, redeg trwy bentrefi Eryri a dilyn y trac sy'n arwain i lawr at Lanberis a'r llinell derfyn.

Y Cyflwynwyr

S4C fydd yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o holl gyffro'r ras yng nghwmni'r cyflwynydd Morgan Jones a John Hardy a Dafydd Whiteside Thomas yn y blwch sylwebu.

Mae'r ras yn ben llanw ar fisoedd o ymarfer a hyfforddi a chawn ddilyn hanes nifer o'r rhedwyr wrth iddyn nhw baratoi; yn ystod y ras ei hun ac wrth iddynt (cawn obeithio) groesi'r llinell derfyn. Bydd yn gyfle i ddeall beth sy'n sbarduno'r rhedwyr i gymryd rhan mewn ras gorfforol a chyflym a'u gobeithion nhw wrth gystadlu.

"Bob blwyddyn, mae yna wefr yn mynd trwy dy gorff wrth weithio ar Farathon Eryri ac wrth i bawb ymgynnull cyn y ras, mae yna deimlad disgwylgar, gyda'r tensiwn yn cynyddu," meddai Morgan.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales