S4C

Close
Flash is required to view this video

chwaraeon

Mike Phillips 009

Portread teledu o'r gwir Mike Phillips

Mae'n chwaraewr sydd bob amser yn creu argraff ar y cae rygbi ac yn aml yn creu penawdau oddi ar y cae hefyd - ond pwy yw'r gwir Mike Phillips?

Fe fydd portread teledu ar S4C o fewnwr Bayonne, Cymru a'r Llewod, Mike Phillips 009, nos Iau, 2 Chwefror, yn datgelu'r ochr fwy personol, sensitif i'r bachan o bentre' Bancyfelin yn Sir Gaerfyrddin.

Symudodd y seren rygbi 29 oed i glwb Bayonne yn ardal Basg Ffrainc yn y Pyrenees Iwerydd ddechrau'r haf a bu camerâu S4C yn ei ddilyn wrth iddo ymgartrefu mewn gwlad newydd a cheisio argraff gyda chlwb sy'n brwydro i aros yn Uwch Gynghrair Le Championnat de France y tymor hwn.

Mae'r rhaglen yn cynnwys cyfres o gyfweliadau ecsgliwisif lle mae'n sôn yn agored am ei fywyd newydd ar y cyfandir ac am ei obeithion am y dyfodol fel chwaraewr rygbi. Mae'n datgelu ei fod wedi mwynhau ei gyfnod yn chwarae i dri o ranbarthau Cymru - y Scarlets, Gleision a'r Gweilch - ond yn credu na fydd byth yn chwarae rygbi eto yng Nghymru heblaw yng nghrys Cymru.

"Des i draw yma o Gymru i wlad arall er mwyn dechrau 'to… mae'n grêt i brofi rhywbeth gwahanol, rygbi gwahanol… ond fi'n clywed bod lot o arian mas 'ma hefyd!" meddai Mike Phillips dan chwerthin.

Ond yn y rhaglen, mae hefyd yn trafod yn onest rhai o'r digwyddiadau yn ei fywyd sydd wedi denu sylw'r wasg o ganlyniad i'r diddordeb traddodiadol mewn sêr rygbi yng Nghymru. Yn ogystal, mae'n sôn yn dyner am ei berthynas a'i gyfeillgarwch â'r gantores pop Duffy.

Meddai cynhyrchydd y rhaglen, Russell Isaac o gwmni Sports Media Services, "Dwi wedi gweithio gyda Mike ar wahanol brosiectau ffilmio ers chwe blynedd ac yn y cyfnod yma dwi wedi dod i'w adnabod yn eitha' da. Mae'n foi hoffus, gonest ei farn a bob amser yn broffesiynol yn ei waith.

"Mae'r rhaglen yma'n portreadu bachan strêt o gefn gwlad sydd wedi denu sylw weithiau am y rhesymau anghywir. Mae'n gwybod bod ganddo enw fel tipyn bach o fachan drwg, ond mae'n gwybod nawr ei fod e'n gorfod cynllunio o flaen llaw i osgoi sefyllfaoedd lle mae eraill yn ceisio creu trwbl."

Ymhlith y cyfranwyr mae Dafydd Jones, cyn flaen asgellwr Cymru, sy'n ffrind agos i Mike ers blynyddoedd. Mae'n dweud bod gan Mike "agwedd syml at fywyd - mae'n licio mwynhau ei hun ar y cae rygbi ac oddi arno."

Cyfrannwr arall i'r rhaglen yw asgellwr Seland Newydd Joe Rokocoko, sydd hefyd yn chwarae i Bayonne.

Meddai Joe Rokocoko am Phillips y chwaraewr rygbi, "Dwi'n cofio fe yn y tîm dan 19 oed, fe fyddai'n syllu arnat ti mewn ffordd heriol ac roedd e'n un cegog. Mae'n enw mawr bellach ers Cwpan y Byd ac rydyn ni'n dau'n ysu rhoi'r awch yna yn chwarae'r tîm a fydd yn arwain at lwyddiant."