Y flaenoriaeth fwyaf yn erbyn Awstralia yw sicrhau meddiant. Mae’r Wallabies yn dîm sy’n creu rhythm wrth fynd trwy’r cymalau. Y ffordd orau o’u hatal yw peidio â rhoi meddiant iddyn nhw. Felly, yn lle cicio’n dactegol, rhaid rhedeg atyn nhw’n fwy. Dylid gwneud hynny o safleoedd go ddwfn a cheisio ymosod ar eu hamddiffyn drifft er mwyn croesi’r llinell fantais a datblygu momentwm.
Mae modd curo Awstralia. Does ganddyn nhw ddim yr un gafael seicolegol drosom ni â’r ddwy wlad fawr arall yn Hemisffer y De. Os gall Cymru roi pwysau arnynt gydol y gêm i gyd, fe ddylent fod yn drech na nhw. Fe fydd yn agos ond rwy’n rhagweld Cymru yn ennill o 3 phwynt. Fe fydd hynny wedyn yn dystiolaeth bod y bwlch yn cau rhywfaint rhwng Cymru a gwledydd Hemisffer y De.
© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales