Mae Pelé, eicon pêl-droed mwya'r byd, wedi datgelu mai gôl yn erbyn Cymru yn rownd y chwarteri Cwpan y Byd 1958 oedd y bwysicaf iddo sgorio yn ei holl yrfa ddisglair.
Mewn rhaglen arbennig ar S4C, Pelé 1-0, mae'r arwr o Frasil yn sôn am ei ddyletswydd i Gymru ac am ei atgofion o'r gêm - y tro cyntaf iddo sgorio gôl yng nghystadleuaeth Cwpan y Byd.
Mewn cyfweliad â'r cyflwynydd, Gary Slaymaker, mae Pelé yn egluro ei fod yn parchu chwaraewyr tîm Cymru hanner can mlynedd yn ôl yn fawr. “Roeddwn yn gwybod bod gan Gymru amddiffyn dda a'u bod yn gallu gwrthymosod. Roedd yn ollyngdod i ni, ond yn drasiedi i'r gêm, bod John Charles wedi'i anafu ac yn ffaelu chwarae,” meddai.
Colli o un gôl yn unig wnaeth Cymru - y gôl a sgoriwyd gan Pelé gyda 17 munud yn weddill. Dyma'r unig dro iddynt gyrraedd rowndiau terfynol y bencampwriaeth. Mae'r rhaglen yn adrodd sut y cyrhaeddodd Cymru'r bencampwriaeth yn y lle cyntaf ac yna perfformio mor arwrol i gyrraedd yr wyth olaf. Sicrhaodd gôl Pelé le i Frasil yn y rownd gynderfynol ac yna aethant ymlaen i ennill y bencampwriaeth.
Bu Gary Slaymaker yn cyfweld â Pelé yn Zurich, lle bydd rhai o gemau cystadleuaeth Ewro 2008 yn cael eu chwarae. Mae'n cyfaddef bod cael ei ddewis i fod yn rhan o garfan Brasil yn 1958 ac yntau ond yn 17 oed wedi bod dipyn o syndod iddo ar y pryd.
“Roedd cael chwarae yn deimlad gwych. Ar y naill law, roeddwn ychydig yn nerfus, ar y llaw arall, doedd gen i ddim o gyfrifoldebau'r chwaraewyr profiadol fel Didi, Nilton Santos, Zito a Vavá a'r gôl-geidwad gwych, Gilmar.
“Roedd hi'n gêm anodd ond mae'r atgofion yn rhai da gan mai fi sgoriodd y gôl a roddodd Brasil yn y rownd gynderfynol ac a arweiniodd at ennill y Cwpan yn y pen draw. Fe roddodd y gôl honno hyder i mi. Roedd Cymru'n marcio'n dynn yn y cefn ac rwy'n cofio cael y bêl, troi a llwyddo i wasgu'r bêl i gornel y rhwyd. Rwy'n ystyried hon y gôl bwysicaf imi sgorio erioed - fe roddodd yr hyder imi fynd ymlaen â'm gyrfa.”
Er bod pêl-droed wedi newid cryn dipyn yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, fe gred Pelé fod gobaith o hyd i wledydd bychain fel Cymru gyrraedd Cwpan y Byd. “Mae bob amser lle i wledydd bychain heb lawer o draddodiad pêl-droed i gyrraedd y rowndiau terfynol. Mae gobaith gan dimau bach Asia ac Affrica ac, wrth gwrs, mae Camerwn wedi curo Brasil cyn hyn yn y Gemau Olympaidd,” meddai.
Yn ôl Gary Slaymaker, mae stori ymgyrch Cymru yng Nghwpan y Byd 1958 yn gymysgedd o arwriaeth, comedi a thrasiedi. “Mae'r hanes yn cynnwys perfformiadau arwrol ar y cae a throeon trwstan oddi arno. Roedd e hefyd yn bennod bwysig yn hanes pêl-droed gan mai dyma oedd y tro cyntaf i bêl-droediwr gorau'r byd, Pelé, gael ei weld ar lwyfan wirioneddol ryngwladol,” medd Gary.
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales