Mi wnaeth Pencampwriaeth Rali'r Byd gyrraedd uchafbwynt gyda Rali Cymru GB, a hynny ar ôl tymor cyffrous. Yno, mi fu y gyfres Ralïo yn dathlu ei phen-blwydd aur ac yn darlledu ei hanner canfed rhaglen.
Yn sicr, roedd y gystadleuaeth yn wledd i'r llygad wrth i'r Pencampwr Byd presennol, y Ffrancwr Sébastien Loeb yn y Citroën C4, brwydro yn erbyn Pencampwr Rali Cymru GB y llynedd sef Marcus Grönholm o'r Ffindir sy'n gyrru Ford Focus.
Emyr Penlan a Lowri Morgan fu’n cyflwyno’r gyfres ac mae’r ddau yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu pen-blwydd arbennig Ralïo gartref yng Nghymru.
Meddai Emyr, “Dwi ddim yn gallu credu mai Rali Cymru GB fydd ein hanner canfed rhaglen! Ro’n i’n tybio y byddai’r gyfres yn gafael yn nychymyg pobl, ond mae’r ffaith fod y cylchgrawn Motorsport News yn disgrifio Ralïo fel y ‘rhaglen rali orau ar y ddaear’ yn fonws a hanner.”
Ychwanegodd Lowri, “Rwy' wedi bod yn rhan o ddarllediadau chwaraeon o bob math, ond ar ôl ymuno â Ralïo, yn gyflym iawn rwy' wedi dod i edmygu dewrder ac ymroddiad y gyrwyr a’u timau. Anodd iawn yw peidio rhannu’r llawenydd o lwyddo a’r siom o fethu ochr yn ochr â’r criwiau ar rai adegau.”
Wyn Gruffydd, a fu’n un o sylwebwyr S4C yn ystod darllediadau’r Sianel o Gwpan Rygbi’r Byd 2007, sydd hefyd yn sylwebu yn y gyfres yma. Meddai Wyn, “Rwy' wedi bod yn dilyn ralïau ers ugain mlynedd felly mae cael dathlu ein hanner canfed rhaglen gartref, ar dir Cymreig yn Rali Cymru GB yn anhygoel. A gyda’r ras am y wobr fawr yn un mor agos, bydd hon yn gystadleuaeth i’w chofio.”
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales