S4C

chwaraeon

Y Ras i Lundain 2012

Gobeithion Cymru yn Llundain 2012

Gyda Gemau Olympaidd Llundain 2012 yn prysur agosáu, mae'n amser tyngedfennol i'r athletwyr o Gymru sydd yn gobeithio cystadlu ar lwyfan mabolgampau mwya'r byd.

Bydd y gyfres ddogfen Y Ras i Lundain 2012 yn dychwelyd i S4C am y drydedd flwyddyn yn olynol gyda dwy raglen yr wythnos hon. Bydd Rhodri Ogwen Williams yn gofyn beth yw nodweddion athletwr Olympaidd ac yn cwrdd â rhai o'r athletwyr sydd wedi bod yn brwydro'n galed i ennill lle yng nghystadleuaeth Gemau'r Olympaidd 2012.

Ymysg y bobl ifanc fydd yn cymryd rhan yn y gyfres mae gefeilliaid 16 oed o Ddinbych sy'n chwarae tenis bwrdd, Megan ac Angharad Phillips; Sarah Connolly o Faesteg sy'n reslwraig o fri ac yn rhan o'r Academi Brydeinig; a Carys Parry o'r Rhondda sy'n gobeithio cynrychioli Prydain yn taflu'r morthwyl.

Bydd y gyfres hefyd yn edrych ar obeithion athletwyr Paralympaidd Cymru. Mae Aled Siôn Davies yn 20 oed ac yn dod o Ben-y-bont ar Ogwr ond bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae'n cystadlu yng nghystadlaethau'r ddisgen a'r tafliad maen, ac mae'n teimlo'n weddol hyderus o gael ei ddewis i gystadlu yn y Gemau.

"Ges i'r flwyddyn orau erioed y llynedd - enillais fedal arian am daflu'r ddisgen yn Uwch Bencampwriaeth Athletau'r Byd yn Seland Newydd, a des i'n bedwerydd yn y tafliad maen," meddai Aled, sydd yn astudio Rheoli Chwaraeon ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

"Ac ym mis Ebrill, enillais dwy fedal aur yn y ddisgen ym Mhencampwriaethau Athletau Iau'r Byd yn Dubai, yn ogystal â thorri Record Iau'r Byd. Mae'r ymarfer wedi bod yn anhygoel ers hynny hefyd."

Fe fydd Aled a gweddill yr ymgeiswyr o Gymru yn cael gwybod eu tynged ym mis Gorffennaf pan fyddant yn clywed pwy fydd yn cystadlu yn Llundain.

Gyda'r daith i Lundain yn dod at uchafbwynt felly, cawn glywed sut mae'r posibilrwydd o beidio â chael ei ddewis yn peri gofid i'r bocsiwr o Gwm-gors, Zack Davies. Ac i Rhys Williams o Ben-y-bont, mae'r her o gyrraedd Llundain yn edrych yn galetach fyth. Ar ôl gweld Cymro arall, Dai Green yn cipio'r wobr aur yng Ngemau Athletau'r Byd llynedd, a fydd gan y rhedwr dros glwydi'r un awch i frwydro?