Mae 600 o redwyr yn paratoi i daclo un o gyfarfodydd mawr y calendr rasio mynydd, Ras Ryngwladol Yr Wyddfa 2012. Byddant yn wynebu 10 milltir anodd, o Gae'r Ddol ar lannau Llyn Padarn i gopa'r Wyddfa i fyny fri 1085 medr (3560 tr) ac yna i lawr i droed y mynydd eto.
Bydd S4C yn anelu at uchelfannau mynydd uchaf Cymru wrth gyflwyno uchafbwyntiau Ty'n Lôn Volvo Ras yr Wyddfa nos Sul, 22 Gorffennaf. Gareth Roberts fydd yn cyflwyno'r cyfan gyda Morgan Jones yn gohebu o gopa'r Wyddfa a Nic Parry yn sylwebu ar holl gyffro'r ras.
Mae Ras yr Wyddfa yn denu athletwyr o bedwar ban byd - yn ddynion ac yn ferched - ac mae gan bob rhedwr stori bersonol a rhesymau gwahanol dros redeg y ras. Bydd y tîm yn sgwrsio â nifer o'r athletwyr cyn, yn ystod ac ar ôl y ras.
Cawn glywed hanes un o redwyr mwyaf llwyddiannus Ras yr Wyddfa ers cychwyn y ras ym 1976 - Andi Jones o Fanceinion. Enillodd Andi'r ras am y pumed tro yn 2011 ac eleni, fe fydd yn gobeithio cipio'r fuddugoliaeth unwaith yn rhagor. Y llynedd roedd hi'n dipyn o ornest rhwng Andi Jones a'r Albanwr Murray Strain, gyda Murray yn gwthio Andi i'r eithaf bob cam o'r ffordd.
Meddai cyflwynydd darllediadau S4C o'r ras, Gareth Roberts, "Heb os, Andi Jones yw athletwr mwyaf llwyddiannus Ras yr Wyddfa ac mae ganddo record anhygoel yn y gystadleuaeth. Dwi'n siŵr bydd o'n edrych i wella ar y record honno eleni er mwyn ennill y teitl am y chweched tro. Ond mae ganddo wrthwynebydd cryf yn Murray Strain - rhedwr wnaeth gryn dipyn o argraff ar bawb yn 2011. Mae'n anorfod bydd Murray hefyd 'nôl gyda'i lygad ar y brif wobr."
Mae Ras y Merched hefyd wedi bod yr un mor gystadleuol yn y blynyddoedd diwethaf wrth i dimau o Loegr a'r Alban frwydro am y safle cyntaf. Pippa Jackson oedd yn fuddugol yn 2011 ond eleni mae yna ddwy gystadleuydd newydd - Emile Forsberg o Sweden a Zhanna Vokueva o Rwsia a byddant yn gobeithio torri record neu ddwy.
Erbyn hyn mae'r ras yn rhan o'r Skyrunner World Series sydd wedi rhoi statws newydd i'r ras ac yn denu mwy o redwyr o safon ryngwladol i gystadlu.
Meddai Stephen Edwards, trefnydd y ras, "Rydyn ni wedi trio bob amser i gael y gorau yma i gystadlu ond mae bod yn rhan o'r Skyrunner World Series wedi rhoi hwb bwysig i'r ras. Rydyn ni'n hynod falch hefyd bod y ras yn mynd i fod unwaith eto ar y teledu yn enwedig gan fod Ras yr Wyddfa yn eiconig i Gymru a hefyd o gofio ein bod wedi cael ras mor gyffrous y llynedd."