Mae Ras Ryngwladol Yr Wyddfa yn cael ei chynnal bob blwyddyn ar lethrau geirwon Eryri. Eleni, bydd uchafbwyntiau'r cystadlu brwd i'w gweld mewn rhaglen arbennig nos Sul ar S4C.
Mae'r ras yn ddeg filltir o hyd ac yn cael ei hadnabod fel un o rasys mynydd anoddaf Ewrop ac mae 500 o redwyr yn heidio i Lanberis yn flynyddol i geisio cyflawni'r gamp.
Un o gyflwynwyr y rhaglen bydd Lowri Morgan, sydd hefyd yn cyflwyno Ralïo ar S4C. Mae Lowri'n rhedwr profiadol sydd wedi cwblhau sawl marathon yn y gorffennol - ac mae rhedeg Ras yr Wyddfa yn uchelgais ganddi.
"Pob blwyddyn, wedi i mi fod yn cyflwyno yno, dwi'n dweud y bydda i'n ei rhedeg hi flwyddyn nesaf. Ond er nad ydw i erioed wedi rhedeg y ras, fe alla i werthfawrogi pa mor anferth yw'r sialens," meddai Lowri, sydd wedi cwblhau Ironman UK ddwywaith yn ogystal â marathon Llundain bump o weithiau a marathon Efrog Newydd unwaith.
"Mae'r ras yn unigryw gan fod y llwybr yn newid o darmac i dirwedd garw, ac mae rhedwyr yn dod o bob cwr o'r byd i gymryd rhan. Mae gen i barch mawr at bob un sy'n rhedeg y ras, yn enwedig pan rwy'n gweld y rhedwyr proffesiynol yn hedfan i fyny'r mynydd."
Bydd Lowri, ynghyd â chyflwynydd adnabyddus Y Clwb Rygbi, Gareth Roberts, yn cipio cyfle sydyn i sgwrsio â'r cystadleuwyr wrth iddynt gyrraedd y copa ac wedi iddynt gwblhau'r ras. Yn gwylio'r cyfan o'r bocs sylwebu bydd Nic Parri.
Gan fod y ras wedi ei thorri yn ddwy ran, nid y rhai sy'n cyrraedd y copa gyntaf, o reidrwydd, sy'n ennill y ras.
"Mae mynd i lawr yn gallu bod yn anos," meddai Lowri. "Mae'r coesau'n teimlo fel sach o datws ac mae'r cerrig bach yn gallu bod yn boendod i'r traed a'r coesau. Mae'n hawdd i'r rhedwyr golli rheolaeth a disgyn gan eu bod nhw mor flinedig."
Gyda chymorth nifer o gamerâu mewn mannau penodol ar hyd y llwybr ynghyd â lluniau o'r awyr o hofrennydd, daw S4C â holl fwrlwm a drama'r diwrnod i'r sgrin. Yr unig beth all amharu ar y cyfan yw'r tywydd, er bod Lowri wedi bod yn lwcus iawn yr holl droeon iddi hi gyflwyno yno yn y gorffennol.
"Rwy'n cofio un flwyddyn pan roeddwn i'n cyflwyno o'r copa. Roedd hi'n gymylog iawn tan chwarter i ddau, ond pan gychwynnodd y ras am ddau o'r gloch, fe gododd y cymylau ac roedd y golygfeydd yn odidog. Gobeithio y bydd hi felly eto eleni!"
© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales