Yng nghanol ymgyrch ddiweddaraf tîm rygbi Cymru, dyma flas ar daith Rowland Phillips ac Eleri Siôn i ddilyn y tîm cenedlaethol yn Ne Affrica yn gynharach eleni. Mae'r ddau'n rhoi blas doniol o'r wlad a holl hwyl y cefnogwyr Cymreig.
I gyd-fynd â thaith carfan genedlaethol rygbi Cymru i Dde Affrica, bu y gyflwynwraig Eleri Siôn a'r hyfforddwr rygbi Rowland Phillips ar daith i'r wlad i gael blas anghyffredin ar fywyd yno.
Mewn cyfres ddwy ran, bu'r ddau yn wynebu gwahanol sialensiau ac yn dod i adnabod cefnogwyr Cymru ar strydoedd De Affrica - o Cape Town i Johannesburg.
"Yn syml, mae'r rhaglen yn grwydr gyda ni'n dau yn Ne Affrica. Yn anffodus, mae Nigel Owens, ein cyd gyflwynydd ar sioe Jonathan, wedi derbyn cynnig i ddyfarnu gêm Seland Newydd yn erbyn Iwerddon yn Wellington, felly fydd e ddim yn gallu dod. Ond dyw e ddim yn golled o gwbl," meddai Eleri gan chwerthin. "Fyddwn ni'n ffeindio rhyw ffordd i fynd â Nigel yno mewn ysbryd."
Yn ogystal â dod wyneb yn wyneb â chefnogwyr brwd Cymru a'r Springboks, bu Rowland yn reidio estrys yn ystod y gyfres. Bu'r ddau hefyd yn cwrdd â ffigwr adnabyddus o Gymru yn yr ail bennod i fynd ar saffari diddorol!
Meddai Eleri, sydd hefyd yn cyflwyno rhaglenni uchafbwyntiau'r ddau brawf rhwng De Affrica a Chymru ar S4C, "Byddwn ni'n chwarae Ar y Pyst ar leoliad gyda human posts ac rwy bach yn bryderus mai fi fydd yn gorfod sefyll fel postyn!"
Bu Rowland hefyd yn ceisio efelychu her Bryan Habana, asgellwr De Affrica, a rasiodd cheetah er mwyn denu sylw at y ffaith bod yr anifail mewn perygl yn y gwyllt.
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales