Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Rygbi: Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd

Wrth i garfan rygbi Cymru deithio i Dde Affrica i herio’r Springboks yr wythnos hon, bydd sêr y dyfodol yn ymgynnull yng Nghymru ar gyfer Pencampwriaeth Ieuenctid y Byd.

S4C a’r BBC sy’n rhannu’r hawliau teledu daearol i ddarlledu’r gemau rygbi yn fyw ac yn ecsgliwsif. Y gêm gyntaf i’w darlledu ar S4C bydd y frwydr rhwng Seland Newydd ac Iwerddon ar nos Fawrth, 10 Mehefin.

Y gemau eraill a ddarlledir yn fyw ar S4C bydd y gêm rownd gyntaf rhwng Cymru a Ffrainc (14 Mehefin), un gêm gynderfynol (18 Mehefin), y gêm drydydd safle a rownd derfynol y bencampwriaeth. Bydd y ddwy gêm olaf yn cael eu darlledu yn fyw ar S4C ar 22 Mehefin o Stadiwm Liberty, Abertawe.

Gareth Roberts fydd wrth y llyw gyda Sarra Elgan yn cyfweld y chwaraewyr ar yr ystlys. Bydd Lyn Davies a Derwyn Jones yn arwain y tîm sylwebu gyda wynebau ifanc blaenllaw ym myd rygbi hefyd yn cynnig beirniadaeth arbenigol.

Meddai Derwyn Jones, “Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae S4C wedi arwain y ffordd drwy ddarlledu rygbi o bob math. Wrth ganolbwyntio ar Uwch Gynghrair y Principality, mae’r Sianel wedi dangos chwaraewyr ifanc yn amlygu eu dawn o wythnos i wythnos.

“Nawr, gyda Phencampwriaeth Ieuenctid y Byd yn cael ei darlledu, bydd modd i bawb weld safonau uchel a sgiliau chwaraewyr ifanc o bob cwr o’r byd.”

Mae Derwyn yn disgwyl gweld rygbi corfforol iawn yn cael ei chwarae yn ystod y gystadleuaeth fydd yn rhoi’r cyfle i’r chwaraewyr ifanc greu argraff dda ar yr hyfforddwyr rhyngwladol.

“Rwy’n disgwyl gweld y Gweilch, Gareth Owen a Ryan Bevington a blaenwr y Sgarlets, Josh Turnbull yn chwarae rôl flaenllaw yng ngharfan Cymru yn ystod y bencampwriaeth,” meddai.

Ond pa wlad fydd yn fuddugol ar ddiwedd y mis ym marn Derwyn?

“Yr hen ffefrynnau yw Seland Newydd, yn amlwg, oherwydd maen nhw’n dueddol o ddatblygu’r chwaraewyr yn ifanc yno. Ond mae’n rhaid hefyd edrych mas am Ffrainc, De Affrica ac Awstralia,” ychwanega.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales