Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Rygbi – Y Gêm Agored

Mae rhaglen ddogfen newydd hon yn edrych ar sut mae rygbi’r undeb wedi dod yn ei flaen yng Nghymru ers i’r gêm droi’n broffesiynol 13 o dymhorau caled yn ôl.

Bydd Rygbi - Y Gêm Agored, yn croniclo’r buddugoliaethau, y colledion a’r argyfyngau a wynebwyd gan gêm genedlaethol Cymru ers i’r diweddar Vernon Pugh gyhoeddi ym Mharis ar 27 Awst 1995 fod y gêm wedi troi’n broffesiynol.

Bydd y rhaglen hon a gyd-gynhyrchir gan P.O.P.1/Fiction Factory - yn edrych ar 13 tymor blith draphlith sydd wedi gweld Undeb Rygbi Cymru yn cyflogi saith hyfforddwr cenedlaethol; Cymru’n colli yn erbyn y Springboks gyda’r sgôr uchaf erioed - 96-13; adeiladu Stadiwm y Mileniwm - adeilad eiconig ond drud; lleihad yn nifer y timau proffesiynol i bedwar rhanbarth, ac ennill dwy Gamp Lawn gofiadwy iawn.

Wedi’i hadrodd yn lliwgar gan yr actor Dewi Rhys Williams, ei sgriptio gan y dramodydd Siôn Eirian a’i chyfarwyddo gan y dramodydd a’r cyfarwyddwr Ed Thomas, mae’r rhaglen yn mynd â ni ar daith lle mae ffaith weithiau’n rhyfeddach na ffuglen.

Mae’r rhaglen wedi sicrhau nifer o gyfweliadau ecsgliwsif, dadlennol gyda ffigyrau allweddol yn rygbi Cymru yn ystod y blynyddoedd tymhestlog yma, gan gynnwys cyn hyfforddwr Cymru Graham Henry, cyn Brif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru David Moffett, cyn chwaraewyr cenedlaethol a ddaet1hant yn weinyddwyr gyda’r Undeb - Terry Cobner a David Pickering, perchennog Gleision Caerdydd Peter Thomas, y newyddiadurwr Paul Rees a’r cyn chwaraewyr Gareth Davies a Gwyn Jones.

Bydd Rygbi - Y Gêm Agored yn bwrw golwg dros y ffordd yr adfywiwyd rygbi Cymru tua diwedd cyfnod hyfforddi Selandwr Newydd arall, Steve Hansen. Arweiniodd ei amser ef wrth y llyw at y Gamp Lawn gyntaf mewn 27 mlynedd o dan ei olynydd Mike Ruddock. Mae’r rhaglen hefyd yn dangos sut yr arweiniodd cyfnod siomedig “dewis y bobl”, Gareth Jenkins, fel hyfforddwr cenedlaethol at benodi’r Selandwr Newydd Warren Gatland yn gynt eleni ac ennill yr ail Gamp Lawn mewn pedwar tymor. Dim ond yng Nghymru...

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales