Wrth i'r tymor rygbi ail-ddechrau, mae cyfres newydd ar S4C yn rhoi cipolwg i ni ar ein hoff chwaraewyr rygbi mewn rhaglen hwyliog sy'n cael ei ffilmio o flaen cynulleidfa fyw.
Rhodri Ogwen Williams fydd yn holi chwaraewyr rhyngwladol o'r gorffennol fel Gareth Edwards, Ieuan Evans, Clive Rowlands, Gareth Davies a Gwyn Jones yn ogystal â rhai cyfredol fel Shane Williams a Stephen Jones.
Caiff Rhodri gyfle i fynd i filltir sgwâr y gwesteion i ddarganfod pa mor falch ydy pobl yr ardal o'u harwyr. Bydd hefyd yn ymuno â'r chwaraewyr wrth iddyn nhw rannu uchafbwyntiau eu gyrfaoedd yn ogystal â'u diddordebau tu hwnt i'r maes chwarae.
Yn y rhaglen gyntaf, bydd Shane Williams yn mynd â Rhodri am dro o amgylch cylch rasio Pen-bre yn ei Jaguar gan esbonio sut mae moduro'n ei helpu i ymlacio. Bydd Shane hefyd yn rhannu cyfrinach am ei hoffter o fraslunio a bydd yr artist Anthony Evans yn cynnig rhywfaint o dips iddo wrth i'r ddau grwydro ardal Glanaman yn chwilio am ysbrydoliaeth.
Bydd Gareth Edwards, ar y llaw arall, yn mynd ar daith emosiynol 'nôl i'w bentref brodorol, Gwaun Cae Gurwen, lle caiff gyfle i chwarae gyda'r band pres lleol, rhywbeth byddai ei dad wedi bod yn falch iawn ohono, meddai fe. Bydd y chwaraewr golff brwd hefyd yn mynd â Rhodri i Gwrs Golff Porthcawl.
"Pwrpas y gyfres yw dod i adnabod arwyr mwya'r gêm yn well," meddai Rhodri Ogwen Williams.
"Pwy fyddai'n meddwl fod Gareth Davies wedi bod eisiau chwarae'r gitâr erioed a bod Gwyn Jones eisiau bod yn wleidydd pan oedd yn ifanc?"
Bydd y gwesteion hefyd yn dod â gwrthrychau gyda nhw i'r stiwdio gyda phob un yn arwain at stori arbennig. Beth tybed yw pwysigrwydd llong ofod i hanes gyrfa Gareth Edwards?
© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales