Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Rygbi Rhyngwladol: De Affrica v Cymru

Gwyn Jones

Erthygl Gwyn Jones

Yn ystod munudau ola'r Prawf Cyntaf yn erbyn De Affrica fe feddyliais i am Shaun Edwards. Roedd amddiffyn cadarn Cymru'n edrych yn fregus iawn yn fwya' sydyn. Pe bai'r Springboks wedi llwyddo i groesi am un cais arall, a chyrraedd carreg filltir o 50 o bwyntiau, byddai'r fflam o fewn enaid y dyn o Ogledd Lloegr wedi ffrwydro. Roedd pob cais yn ergyd i'r hyfforddwr balch wrth iddo syllu'n ddiymadferth o'r eisteddle.

Darllen erthygl Gwyn

S4C yn dangos uchafbwyntiau ecsgliwsif teledu daearol o daith carfan Cymru i Dde Affrica.

Mae uchafbwyntiau'r ail brawf i'w gweld nos Sadwrn 14 Mehefin gydag Eleri Siôn wrth y llyw a Gwyn Jones a Wyn Gruffydd yn sylwebu.

Bydd y daith yn cynnig her o'r radd uchaf i garfan Cymru - nid yn unig y byddan nhw'n dod wyneb-yn-wyneb â phencampwyr y byd, bydd y gemau yn cael eu cynnal dros 5,000 o droedfeddi uwchben lefel y môr, yn Bloemfontein a Pretoria.

Meddai Eleri Siôn "Dim ond Ffrainc a'r Crysau Duon sydd wedi ennill yn Bloemfontein a Pretoria, ond os yw Cymru am efelychu'r ddau dîm yma, dyma'r flwyddyn iddyn nhw fanteisio ar y cyfle. Mae cyfnod o newid ar hyn o bryd yn Ne Affrica gyda hyfforddwr newydd wrth y llyw a thimau hemisffer y de yn arbrofi gyda rheolau newydd felly dyma gyfle euraidd i Gymru.”

"Does 'na ddim gwell amser i drechu'r Springboks 'na nawr! Uchelgais Cymru fydd ennill y gemau prawf gan nad ydyn ni byth wedi trechu De Affrica ar eu tir eu hunain. Bydd disgwyliadau uchel iawn gan ddilynwyr rygbi yng Nghymru hefyd ar ôl i ni gipio'r Grand Slam yn y gwanwyn,” ychwanega'r sylwebydd Wyn Gruffydd.

Mae hi bellach yn ddeng mlynedd ers i Gymru colli yn erbyn y Springboks, 96-13. Dyma'r cyfanswm uchaf o bwyntiau erioed i gael eu sgorio mewn gêm yn erbyn Cymru. Ydy Wyn yn credu y bydd atgofion cas yn llifo 'nôl wrth i Gymru baratoi at y gemau prawf yma?

"Rwy'n credu bydd yr atgof yn ysbrydoli'r garfan yn fwy. Yr unig un yn y garfan fydd ag atgofion chwerw o'r diwrnod yna yw Stephen Jones a ddaeth ymlaen fel eilydd am y tro cyntaf yn y gêm honno. Ond fe yw un o'r chwaraewyr mwyaf dylanwadol a phrofiadol sydd â'r gallu i hybu Cymru a sicrhau buddugoliaeth.”

Er bod Wyn yn meddwl bod gan Gymru siawns dda yn erbyn y Springboks, mae'n credu bod yn rhaid i ni ennill y prawf cyntaf os am ennill yr ail.

"Mae yna siawns go dda i Gymru os wnawn ni ennill y prawf cyntaf ond os na, rwy'n ofni y bydd De Affrica yn ennill y ddau,” ychwanega Wyn, sydd hefyd yn sylwebu ar y gyfres Rasus ar Garlam a ddarlledir bob nos Lun.

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales