Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Rygbi Rhyngwladol: De Affrica v Cymru

Erthygl Gwyn Jones

Gwyn Jones

Yn ystod munudau ola'r Prawf Cyntaf yn erbyn De Affrica fe feddyliais i am Shaun Edwards. Roedd amddiffyn cadarn Cymru'n edrych yn fregus iawn yn fwya' sydyn. Pe bai'r Springboks wedi llwyddo i groesi am un cais arall, a chyrraedd carreg filltir o 50 o bwyntiau, byddai'r fflam o fewn enaid y dyn o Ogledd Lloegr wedi ffrwydro. Roedd pob cais yn ergyd i'r hyfforddwr balch wrth iddo syllu'n ddiymadferth o'r eisteddle.

Rwy'n deall na allai geiriau lwyr fynegi ei siom. Doedd dim pwysau cyson ar yr amddiffyn, doedd y ceisiau ddim yn anochel oherwydd ymosodiadau diddiwedd. Roedd y Boks yn sgorio'n rhy hawdd o lawer gan ystyried y gwaith a'r ymdrech sydd wedi eu buddsoddi yn yr agwedd hon o'r chwarae. Mae'n rhaid bod Edwards yn cwestiynu beth oedd wedi digwydd i dîm y Gamp Lawn.

Yn ystod Cwpan y Byd, fe ildiodd Cymru dri chais a hanner ym mhob gêm ar gyfartaledd. Dywedodd Rob Howley wrtha i fod hyn yn annerbyniol os yw'r tîm eisiau llwyddo ar y lefel ryngwladol uchaf. Fe'i profwyd yn gywir yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ac yn y Prawf cyntaf.

Y brif feirniadaeth am y perfformiad yn Bloemfontein oedd y camgymeriadau diangen a olygai nad oedd modd i Gymru ennill momentwm. Er gwaetha'r camgymeriadau sylfaenol, fe fwynhaodd Cymru'r mwyafrif o'r meddiant am rannau helaeth o'r gêm, felly nid oedd y straen mor fawr â hynny ar yr amddiffyn.

Uchelgais Gatland pan gymerodd yr awenau oedd na fyddai Cymru'n dîm a fyddai'n cael ei guro'n rhwydd. Mae'n barod i dderbyn y bydd Cymru'n colli rhai gemau, ond y byddai'n rhaid i'r gwrthwynebwyr weithio'n galed am eu buddugoliaeth. Am y tro cyntaf ers i'w deyrnasiad ddechrau, collodd Cymru, a cholli i dîm nad oedd wedi gorfod gweithio'n galed i gyflawni hynny. Dyna beth sydd wedi bod yn loes calon i Gatland ac Edwards.

Roedd y disgwyliadau'n uchel ar gyfer y Prawf Cyntaf. Dyw'r Cymry ddim angen llawer o esgus i fynd dros ben llestri, ac yn y gorffennol mae Gatland wedi gwneud yn fach y llwyddiant a gafwyd yn y Gamp Lawn. Ond nid y tro hwn. Roedd e'n ffyddiog, ac wedi datgan yn gyhoeddus ei ddicter fod Cymru'n cael eu hwfftio gan y wasg yn Ne Affrica. Roedd e eisiau ennyn parch pobl De Affrica, ac o leiaf y bydd ganddo gyfle arall i wneud hynny yn Pretoria'r penwythnos hwn.

Wedi'r ornest gyntaf yn erbyn Pencampwyr y Byd, un o'r gwersi mae'n rhaid ei dysgu yw peidio â chael ein tynnu i mewn i'w steil nhw o chwarae. Mae'n rhaid dysgu ymdopi gyda steil gorfforol y Boks. Mae'n amhosib ennill fel arall. Ond, pan oedd Cymru â'r bêl, roeddent yn ceisio curo De Affrica trwy chwarae gêm gorfforol. Rhaid i Gymru fod yn gadarn heb y bêl, ond pan fo ganddon ni'r meddiant, mae'n rhaid i ni chwarae'r gêm sy'n ein siwtio ni.

Sgoriwyd y ddau gais pan lwyddodd Cymru i ledaenu'r bel. Mantra Gatland yw bod yn rhaid i dimau ennill yr hawl i wneud hynny a mynd yn eu blaenau cyn lledu'r bêl. Yn gyffredinol, mae hynny'n egwyddor berffaith iawn. Y broblem yw bod angen rhywbeth arbennig i fynd yn eich blaen pan mae'r gwrthwynebwyr yn gryfach na chi. Mae angen i Gymru fod yn ddyfeisgar a slic i groesi'r llinell fantais. Dyw gyrru ymlaen o sgarmes i sgarmes ddim yn opsiwn.

Nid yw unrhyw ddadansoddiad o ornest y penwythnos diwethaf yn gyflawn heb sôn am un gair bythol boenus - y lein! Ro'n i'n meddwl fod y briw agored hwnnw wedi gwella, ond cafodd ail reng y Springboks fodd i fyw yn pigo'r briw eto. Rhaid mynd yn ôl at y sylfeini - mae ennill pêl ar flaen y lein yn well na pheidio ag ennill pêl o gwbl.

Mae gan Gatland benderfyniadau anodd i'w gwneud a does gen i'r un ateb cyfleus iddo. Mae'r ffaith fod Cooper yn edrych yn betrusgar yn destun pryder ac mae'r bartneriaeth ganol cae yn eithaf anffrwythlon. Hefyd, mae gennym ddau gefnwr sy'n dalentog iawn, ond sydd â llawer i'w ddysgu.

Wythnos diwethaf, ceisiodd Gatland roi hunan hyder i'w chwaraewyr. Yr wythnos hon, bydd yn rhaid iddo adeiladu eu hyder o'r newydd. Fe ddylai'r rheolwyr fod wedi paratoi fideo o uchafbwyntiau Cymru yn Bloemfontein sy'n cynnwys montage o Shane Williams a nifer o'r sgrymiau. Feddyliais i erioed y byddwn i'n dweud hyn, ond rwy'n gobeithio y bydd 'na lawer o sgrymiau ddydd Sadwrn. Pe bai Shane yn chwarae mewnwr, fe allen ni achosi lot o broblemau iddyn nhw.

Yn anffodus, mae'r dasg sy'n wynebu Cymru yn Loftus Versfeld yn anos fyth. Mae perfformiad y Springboks yn debyg o wella ac nid nawr yw'r amser i roi blas o rygbi rhyngwladol i'r chwaraewyr ifanc. Fel y dywedais i cyn y Prawf Cyntaf, rwy'n credu fod ennill y tu hwnt i ni, ond byddai gwahaniaeth o 15 pwynt rhwng y ddau dîm yn barchus a derbyniol. Yn olaf, i'r chwaraewyr hynny oedd yn ymgeiswyr i garfan y Llewod wedi'r Chwe Gwlad, byddant yn cael un cyfle arall i brofi eu gwerth. Crasfa arall, a man a man iddynt fwcio'u gwyliau haf ar gyfer flwyddyn nesa' nawr - ond nid yn Ne Affrica.

Mae Gwyn Jones yn rhan o dîm cyflwyno S4C sy'n darparu uchafbwyntiau daearol ecsgliwsif o'r ddau brawf rygbi yn Ne Affrica.

Hafan Rygbi Rhyngwladol: De Affrica v Cymru

© 2008 S4C
O Gymru / Made in Wales