Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Rhaglenni Chwaraeon ar S4C

  • Dydd Gwener 12 Mawrth

  • 21:30 - Jonathan

    Ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens, Rowland Phillips ac Alex Jones mewn rhaglen hwyliog arall o 'Jonathan'. Iwerddon sy'n wynebu Cymru'r wythnos hon. Yn ymuno â'r tîm ar y soffa heno bydd Sarra Elgan a Clive Rowlands.

  • Dydd Sadwrn 13 Mawrth

  • 14:00 - Y Clwb Rygbi: Iwerddon v Cymru

    Yn fyw o Croke Park wrth i Gymru herio Iwerddon, Pencampwyr Grand Slam y Chwe Gwlad y llynedd. Dyma gêm olaf ond un y timoedd yn y bencampwriaeth eleni. Cic gyntaf 2.30pm.

  • 16:45 S4C Digidol - Cofio gyda Gareth Edwards (R)

    Bydd arwr y maes rygbi Gareth Edwards yn rhannu ei atgofion gyda Heledd Cynwal wrth wylio clipiau o raglenni teledu o'r dyddiau a fu. Bydd Gareth yn cofio ei blentyndod yng Ngwaun Cae Gurwen lle bu'n ymarfer ei sgiliau rybgi ar ochr y stryd. Mae cyfweliadau gyda thrigolion y pentre 'nôl yn 1968 yn dangos balchder y pentrefwyr pan gafodd Gareth gapteiniaeth Cymru pan oedd ond yn ugain oed. Cawn hefyd glywed am sut y sicrhaodd ei fam mai rygbi ac nid pêl-droed y byddai'i mab yn chwarae dros ei wlad. Mae Cofio hefyd yn cynnwys lluniau o daith y Llewod i Seland Newydd ym 1971 a chais byd-enwog Gareth yn erbyn y Crysau Duon ym 1973.

  • 21:25 - Sgorio Cymru

    Morgan Jones sy'n cyflwyno uchafbwyntiau'r penwythnos o Uwch Gynghrair Cymru gan ganolbwyntio ar gêm fawr y dydd rhwng Castell Nedd a'r Seintiau Newydd a chwaraewyd ar y Gnoll y prynhawn 'ma.

  • 22:00 S4C Digidol - Jonathan (R)

    Ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens, Rowland Phillips ac Alex Jones mewn rhaglen hwyliog arall o 'Jonathan'. Yn ymuno â'r tîm ar y soffa heno bydd Sarra Elgan a Clive Rowlands.

  • Dydd Sul 14 Mawrth

  • 11:00 S4C Digidol - Sgorio Cymru (R)

    Morgan Jones sy'n cyflwyno uchafbwyntiau'r penwythnos o Uwch Gynghrair Cymru gan ganolbwyntio ar gêm fawr y dydd rhwng Castell Nedd a'r Seintiau Newydd a chwaraewyd ar y Gnoll y prynhawn 'ma.

  • 19:00 - Rygbi: Cwpan LV

    Uchafbwyntiau'r gêm gynderfynol yn y Cwpan LV rhwng y Gleision a Chaerloyw, ynghyd ag uchafbwyntiau o'r gêm gynderfynol arall rhwng Northampton a'r Saracens. Sarra Elgan a Gwyn Jones sy'n cyflwyno.

  • Dydd Llun 15 Mawrth

  • 22:00 - Sgorio

    Ymunwch â Morgan Jones, Iwan Roberts a Malcolm Allen ar gyfer y diweddaraf o fyd y bêl gron yng Nghymru a thu hwnt. Y brif gêm yn La Liga yw'r ornest rhwng Barcelona a Valencia yn Camp Nou ac yn Serie A bydd Catania yn erbyn Inter. Hefyd uchafbwyntiau Casnewydd v Bishops Stortford yng Nghynghrair De y Blue Square.

  • Dydd Mawrth 16 Mawrth

  • 16:15 - Sgorio

    Morgan Jones sy'n cyflwyno'r gorau o La Liga yn cynnwys Barcelona v Valencia yn y Camp Nou.

  • 23:25 S4C Digidol - Sgorio (R)

    Ymunwch â Morgan Jones, Iwan Roberts a Malcolm Allen ar gyfer y diweddaraf o fyd y bêl gron yng Nghymru a thu hwnt. Y brif gêm yn La Liga yw'r ornest rhwng Barcelona a Valencia yn Camp Nou ac yn Serie A bydd Catania yn erbyn Inter. Hefyd uchafbwyntiau Casnewydd v Bishops Stortford yng Nghynghrair De y Blue Square.

  • Dydd Mercher 17 Mawrth

  • 16:30 - Concro'r Cwm

    Ysgol Morgan Llwyd sy'n cynrychioli'r Gogledd heddiw mewn gornest gyffrous yn gorfforol a meddyliol. Yn eu hwynebu bydd y tîm o'r De, sef Ysgol Llanhari. Robin McBryde a Non Evans yw'r capteiniaid.

  • 18:30 - Pen Campau'r Sêr

    Yn cystadlu yn y bennod hon bydd Tom Isaacs, mewnwr tîm y Gweilch ac aelod o dîm buddugol Rygbi 7 Pob Ochr Cymru. Bydd Tom yn cynrychioli Ysgol Glantaf o'r brifddinas, a bydd y cricedwr Rhydian Harries yn cynrychioli'r gwrthwynebwyr, Ysgol y Preseli.

  • Dydd Iau 18 Mawrth

  • 19:25 - Y Clwb Rygbi: Munster v Scarlets

    Rygbi byw wrth i'r Scarlets deithio i Iwerddon i herio Munster mewn gêm yn y Cynghrair Magners. Cic gyntaf 7.35pm.

  • Dydd Gwener 19 Mawrth

  • 19:55 - Y Clwb Rygbi: Cymru dan 20 v Yr Eidal dan 20

    Gêm fyw o Barc yr Arfau wrth i dîm Cymru dan 20 herio Yr Eidal dan 20 ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Cic gyntaf 8.05pm.

  • 22:00 - Jonathan

    Ar noswyl gêm Cymru yn erbyn yr Eidal, ar benwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens, Rowland Phillips ac Alex Jones ar gyfer pennod hwyliog arall o 'Jonathan'. Yn ymuno â'r criw heddiw bydd Malcolm Allen a'r actor Rhys Parry Jones.

  • Dydd Sadwrn 20 Mawrth

  • 14:00 - Y Clwb Rygbi: Cymru v Yr Eidal

    Yn fyw o Stadiwm y Mileniwm ar gyfer gêm olaf Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2010 yn erbyn yr Eidalwyr. Cic gyntaf 2.30pm.

  • 21:20 - Sgorio Cymru

    Alun Williams a Malcolm Allen sy'n cyflwyno uchafbwyntiau'r penwythnos o Uwch Gynghrair Cymru gan ganolbwyntio ar gêm fawr y dydd rhwng Llanelli a'r Rhyl a chwaraewyd ar Barc Stebonheath y prynhawn 'ma.

  • 21:55 S4C digidol - Jonathan (R)

    Ar ddiwrnod gêm Cymru yn erbyn yr Eidal, ar benwythnos olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, ymunwch â Jonathan Davies, Nigel Owens, Rowland Phillips ac Alex Jones ar gyfer pennod hwyliog arall o 'Jonathan'. Yn ymuno â'r criw heddiw bydd Malcolm Allen a'r actor Rhys Parry Jones.

  • Dydd Sul 21 Mawrth

  • 11:00 S4C digidol - Sgorio Cymru (R)

    Alun Williams a Malcolm Allen sy'n cyflwyno uchafbwyntiau'r penwythnos o Uwch Gynghrair Cymru gan ganolbwyntio ar gêm fawr y dydd rhwng Llanelli a'r Rhyl a chwaraewyd ar Barc Stebonheath y prynhawn 'ma.

  • 19:15 - Rygbi: Cwpan LV

    Sarra Elgan a Gwyn Jones sy'n cyflwyno uchafbwyntiau gêm rownd derfynol y Cwpan LV o Sixways, Caerwrangon.

  • Dydd Llun 22 Mawrth

  • 17:05 - Concro'r Cwm

    Ysgol Morgan Llwyd sy'n cynrychioli'r Gogledd heddiw mewn gornest gyffrous yn gorfforol a meddyliol. Yn eu hwynebu bydd y tîm o'r De, sef Ysgol Llanhari. Robin McBryde a Non Evans yw'r capteiniaid.

  • 22:00 - Sgorio

    Ymunwch â Morgan Jones, Dai Davies ac Osian Roberts i drafod byd y bêl gron yng Nghymru ac ar y cyfandir. Yn cynnwys uchafbwyntiau Zaragoza v Barcelona a Real Madrid v Sporting Gijon yn La Liga, ac AC Milan v Napoli yn Serie A. Draw ar y Cae Ras, Caergrawnt oedd gwrthwynebwyr Wrecsam yng Nghyngrair y Blue Square. Hefyd, ceir uchafbwyntiau Y Seintiau Newydd v Elements Derwyddon Cefn, Bala v Aberystwyth a Llanelli v Y Rhyl yn Uwch Gynghrair Cymru.

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales