Neidio at y cynnwys

S4C

chwaraeon

Straeon o'r Strade

Mae'r chwiban olaf wedi'i chwythu ar Barc y Strade, ac i ddathlu 129 o flynyddoedd o hanes ar y maes rygbi enwog yn Llanelli, bydd cefnogwyr ac enwogion ddoe a heddiw yn cofio cyfnodau euraidd y cae.

Mae'r rhaglen yn hel atgofion am hanes Parc y Strade trwy lygaid llu o gefnogwyr yn ogystal â chyn-chwaraewyr gorau Llanelli. Ymysg yr enwogion fydd J.J. Williams, Phil Bennett, y tad a'r mab Derek a Scott Quinnell, Handel Greville, Barry John, Rupert Moon, cyn chwaraewr a chyn-hyfforddwr y Sgarlets Gareth Jenkins, y maswr presennol Stephen Jones, y capten presennol Simon Easterby a chyn chwaraewr hynaf Llanelli, Harry Davies, sy'n 92 mlwydd oed.

Mae'r rhaglen yn cynnwys clipiau o gyfnodau mwyaf cofiadwy hanes y cae ers i'r gatiau agor am y tro cyntaf ym 1879 - gan gofio'r diwrnod pan gurodd y Sgarlets, o 9 bwynt i 3, Seland Newydd ym 1972, a'r tair buddugoliaeth yn erbyn Awstralia (1967, 1984 a 1992), heb anghofio am etifeddiaeth yr arwr rygbi Ray Gravell, a fu farw'r llynedd.

Meddai cynhyrchydd Straeon o'r Strade, Dafydd Rhys, "Wrth i'r golau ddiffodd ar Barc y Strade am y tro olaf yn erbyn Bryste, rydym yn dathlu etifeddiaeth y cae drwy hel atgofion gan gefnogwyr Llanelli a'r rheiny wnaeth gamu allan ar dir enwog y cae yn ystod eu gyrfaoedd.

"Dilynwn bedwar grŵp o gefnogwyr ffyddlon y Sgarlets wrth iddyn nhw fwrw golwg yn ôl dros hanes. Ymysg y cefnogwyr bydd tair cenhedlaeth o fewn yr un teulu sy'n teithio o Fangor i bob gêm gartref; criw o ffrindiau o Aberystwyth; teulu lleol o Orslas; a phedwar myfyriwr chweched dosbarth o Rydaman sy'n teithio i'r gemau ar fws y Sgarlets i weld eu harwyr.

"Mae yna lu o atgofion gorau gan yr unigolion yma ac mae pob un yn edrych ymlaen yn arw at fwy o lwyddiant gan y Sgarlets wrth i'r clwb adleoli i'w chartref newydd ochr arall y dref, ym Mharc y Sgarlets."

© 2010 S4C
O Gymru / Made in Wales