Dilynwch tymor Uwch Gynghrair Grŵp Indigo ar S4C gyda gemau byw o'r penwythnos cyntaf hyd at y diwedd.
Sylwebaeth Cymraeg a Saesneg ar gael ar S4C Clic, YouTube S4C Chwaraeon, a Facebook S4C Rygbi.
Ar ba sianel deledu mae S4C? Ydy S4C ar gael ar-lein? Pa ddyfeisiau alla'i ddefnyddio i wylio S4C? Yr atebion i gyd ar un dudalen.
Mae Jason Mohammad yn teithio o amgylch rhai o stadiymau chwaraeon mwyaf eiconig y byd. Yn y rhaglen gyntaf, mae Jason yn edrych ar stadiymau sy'n enghreifftiau o ddylunio a thechnoleg flaengar, gan gynnwys Stadiwm Tottenham Hotspur, Estadio Municipal de Braga, Canolfan Llithro Genedlaethol Yanqing, Stand Aga Khan, a'r Sapporo Dome.
Dangosiad i nodi Mis Ymwybyddiaeth Byddarwch. Am y tro cyntaf erioed, mae timau rygbi'r dynion a menywod yn cystadlu yn Mhencampwriaeth Rygbi Byddar y Byd yn yr Ariannin. Er iddynt wynebu heriau, ar ac oddi ar y cae, roedd Rygbi Byddar Cymru yn benderfynol o oresgyn yr anawsterau a dychwelyd adref fel Pencampwyr dwbwl Cwpan y Byd.