S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Chwaraeon

Ar gael nawr

  • Y Gêm

    Y Gêm

    Y tro hwn, mae Owain Tudur Jones yn siarad gyda'r chwaraewr dartiau, Jonny Clayton.

  • None

    Seiclo: Stevie a La Flèche Wallonne

    Rhaglen arbennig yn dathlu buddugoliaeth syfrdanol y seiclwr Stevie Williams o Gapel Dewi, Aberystwyth yn un o Glasuron yr Ardennes, La Fleche Wallonne. Y Prydeiniwr cynta' erioed i gyflawni'r gamp.

  • None

    Y Gic Fawr

    O Ben-y-bont i ben y byd pêl-droed Americanaidd- dyma raglen ddogfen arbennig sy'n dilyn stori anhygoel y cyn chwaraewr rygbi, Evan Williams. Gwelwn Evan yn dechrau ei flwyddyn olaf yn chwarae i goleg Missouri Western State, cyn edrych tuag at ei freuddwyd fawr o gyrraedd yr NFL.

  • Ralio+

    Ralio+

    Uchafbwyntiau o bedwaredd rownd Pencampwriaeth Rali'r Byd o Croatia. Gall y gyrrwr o Ddolgellau Elfyn Evans ennill y rali heriol yma am yr eildro yn dilyn ei fuddugoliaeth y llynedd' Bydd angen ymdrech arwrol wrth i yrwyr gorau'r byd ralïo dros heolydd asffalt y wlad o flaen 300,000 o gefnogwyr. Holl gyffro'r rali yng nghwmni Emyr Penlan, Hana Medi a Rhys ap William.

  • Sgorio Byw

    Sgorio Byw

    Mae'r Seintiau Newydd yn gobeithio cyflawni'r trebl, tra bod Cei Connah yn anelu i godi Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers 2018. C/G 5.25.

  • Clwb Rygbi

    Clwb Rygbi

    Cyfle i weld gêm Pencampwriaeth Rygbi Unedig rhwng Caerdydd a Chaeredin a chwaraewyd ddoe ar Barc yr Arfau.

  • Rygbi Pawb Uchafbwyntiau

    Rygbi Pawb Uchafbwyntiau

    Bydd Stadiwm Abertawe yn for o goch a gwyrdd ar un o ddiwrnodau mwyaf y calendar chwaraeon - diwrnod y Farsiti Gymreig, gyda thimau'r menywod a'r dynion yn chwarae am fwy na balchder rhyng-golegol - mae rhain yn gemau i ddiffinio tymor. Ymunwch a Heledd Anna a'r tim am uchafbwyntiau yr holl gyffro o'r gemau ac o'r cystadlu ar draws y campau amrywiol sy'n digwydd gydol y dydd - wrth i'r ddwy brifysgol gystadlu am Darian Farsiti.

  • Mwy o Chwaraeon

    Mwy o Chwaraeon

    Mwy o raglenni Chwaraeon S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?