S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Chwaraeon

Ar gael nawr

  • Ralio+

    Ralio+

    Uchafbwyntiau o bumed rownd Pencampwriaeth Rali'r Byd o Bortiwgal. Bydd angen dewrder anhygoel wrth i yrwyr gorau'r byd ralïo dros dir garw a chymalau heriol yr ynys brydferth, a'r uchafbwynt fydd cymal cyffro mwyaf enwog y flwyddyn - 'Fafe'. Holl gyffro'r rali yng nghwmni Emyr Penlan, Hana Medi a Rhys ap William.

  • Jason Mohammad: Stadiymau'r Byd

    Jason Mohammad: Stadiymau'r Byd

    I orffen y gyfres, mae Jason yn profi awyrgylch unigryw diwrnod gêm mewn stadiymau sy'n amrywio o'r hanesyddol i'r gwirioneddol eiconig, gan gynnwys Cae Ras Wrecsam, Stadiwm Brandywell yn Derry, Arena Hangzhou yn Tsieina a Stadiwm Azteca yn Ninas Mecsico.

  • Clwb Rygbi

    Clwb Rygbi

    Cyfle i weld y gêm Pencampwriaeth Rygbi Unedig rhwng y Gweilch a'r Dreigiau a chwaraewyd yn gynharach heddiw yn Stadiwm Swansea.com.

  • Sgorio Byw

    Sgorio Byw

    Rownd Derfynol Gemau Ail Gyfle Cymru Premier JD: Caernarfon v Penybont. Bydd enillwyr y gemau ail gyfle yn ymuno â'r Seintiau Newydd, Cei Connah a'r Bala yn rowndiau rhagbrofol Ewrop dros yr haf. Mae'r Cofis yn gobeithio cyrraedd Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes, tra bydd Pen-y-bont yn anelu i ddychwelyd i Ewrop am yr ail flwyddyn yn olynol. C/G 14.45.

  • Sgorio

    Sgorio

    Cyfres llawn cyffro pêl-droed y pyramid Cymreig. Holl uchafbwyntiau rownd gynderfynol gemau ail gyfle'r Cymru Premier JD gyda Caernarfon, Met Caerdydd, Y Drenewydd a Phen-y-bont yn brwydro i gyrraedd Ewrop.

  • Rygbi Indigo Prem

    Rygbi Indigo Prem

    Rownd Derfynol Uwch Gynghrair Indigo, gyda Llanymddyfri yn chwarae yn erbyn Casnewydd yn Church Bank. C/G 14:40.

  • None

    DRYCH: Rygbi Byddar a Chwpan y Byd

    Dangosiad i nodi Mis Ymwybyddiaeth Byddarwch. Am y tro cyntaf erioed, mae timau rygbi'r dynion a menywod yn cystadlu yn Mhencampwriaeth Rygbi Byddar y Byd yn yr Ariannin. Er iddynt wynebu heriau, ar ac oddi ar y cae, roedd Rygbi Byddar Cymru yn benderfynol o oresgyn yr anawsterau a dychwelyd adref fel Pencampwyr dwbwl Cwpan y Byd.

  • Mwy o Chwaraeon

    Mwy o Chwaraeon

    Mwy o raglenni Chwaraeon S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?