Nodion cyn nawr
- Diwedd y daith
- Pwyntie i'w profi yn erbyn Iwerddon
- Brwydr yn yr Eidal a gêm anferth i ddod!
- Antur Azzurri
- Cwpan Magners a Chwpan y Byd 7 Bob Ochr i Gymru!
- Dod dros Baris - mewn sawl ffordd
- 24 awr ym Mharis ond dychwelyd yn waglaw
- À Paris, mes amis!
- Caerdydd a Pharis - hanes dwy brifddinas
- Symud ymlaen - Caerdydd a Chwpan Magners
- Nid ar chwarae bach mae cael pen mawr!
- Taro'r Tri yn erbyn y Saeson?
- Y Ffordd ar Gau
- Rhys Evans - Ffan ar y Ffordd
Blogiadur Chwe Gwlad
Rhys Evans – Ffan ar y Ffordd
Shwd ma'r hwyl??? Dechrau Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009 hapus i chi gyd!!!
Wel mae wedi bod yn gwpwl o ddiwrnode dramatig iawn! A fi'n siŵr bod lot o chi yn yr un sefyllfa a fi!!! Dim gwaith dydd Mawrth achos yr eira mawr (good times) ond hefyd y trip mawr i'r Alban i wylio Cymru wedi canslo (bad times). Tip i chi – peidiwch gadel trefnu trip i Gaeredin tan y funed olaf! I ddechre on i a'r bois yn bwriadu drifo lan yr holl ffordd ond ar ôl clywed am yr eira ath y syniad 'na lawr y pan!! Wedyn penderfynu mynd ar y trên ond sylweddoli bod e'n cymryd bron i ddiwrnod i gyrraedd a diwrnod i ddod 'nôl!! Yr unig opsiwn sydd ar ôl yw hedfan lan ond ma'r prishe yn ridiculous, £220 un ffordd ar y nos Wener!! WOOOOOOT!! Fel wedes i wrth y fenyw ar y ffôn, ‘I'd expect to be flying up with the Welsh team for that amount of money, bach, with Cheryl Cole as my personal air stewardess'. Ma' fe'n edrych bo fi gorfod wotchan y gêm gyntaf yn y 'local'...
Ie wir, Yr Alban yw gwrthwynebwyr cyntaf Cymru dydd Sul am 3 or gloch, gêm fi'n gweld bydd yn penderfynu tynged y Cymry y flwyddyn hon. Chi'n cofio ni'n ennill y gamp lawn yn 2005 a 2008? (fi ddim yn cofio lot chwaith pidiwch becso). Maeddu Lloegr ddwywaith yn ein gemau cyntaf oedd yr hanes y ddou dro, sbardyn ar gyfer hyder y tîm i ennill y Gamp Lawn ddwywaith. Bydd buddugoliaeth dda lan yn Yr Alban yn allweddol fi'n credu os odyn ni am weld tîm Warren Gatland – neu'r ‘Gatfather' – yn ennill y Bencampwriaeth am y trydydd tro mewn pum mlynedd. A pwy a ŵyr, galle fe arwain at ‘Grand Slam' bach neis arall i roi rheswm i ni gyd fynd yn hollol boncyrs unwaith eto.
Fi'n lico fel ma' Warren Gatland wedi rhoi ychydig mwy o bwyslais ar y blaenwyr ac ar ennill pêl dda drwy'r sgrym a'r lein ers iddo fe gymryd drosodd fel hyfforddwr. Ma' chwaraewyr fel Andy Powell, Alun Wyn Jones a Gethin Jenkins yn chwarae yn wych ar y foment a ma' 8 blaen Cymru yn un grymus sydd yn gallu herio bron unrhyw wrthwynebwyr yn y byd. Os oes pêl gyson dda yn dod i ddwylo chwaraewyr fel Shanie boy, Lee ‘Hannerceiniog' a Lee Byrne ma' wastod siawns i greu problemau i'r gwrthwynebwyr. Er trist yw gweld bod Gareth Cooper wedi anafu wrth ymarfer, ond pwy well i alw mewn fel eilydd hwyr ond Dwayne Peel. 'Na chi chwaraewr a all wneud gwahaniaeth i gyfeiriad y gêm trwy ddod 'mlan fel eilydd ddydd Sul os bydd ishe. Er bod time rhanbarthol yr Alban wedi bod yn ware'n dda yn ddiweddar, fi'n teimlo'n optimistaidd bois bach. Fy mhroffwydoliaeth (yffach 'na chi air mawr) ar gyfer y gêm: Cymru 24 – Yr Alban 18.
'Na gyd wrtho fi am y tro, siaradai 'da chi ar ôl y gêm ddydd Sul!! Fi off i weld os 'ma prishe'r flight wedi dod lawr neu os oes gritter sbar 'da'r Cyngor i fi ddrifo lan! Siwrne dda i chi os chi'n mentro ar y trip hir i'r Alban.
C'mon Cymru!!!!!
Rhys
