Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Cwe Gwlad

Blogiadur Chwe Gwlad

Cwpan Magners a Chwpan y Byd 7 Bob Ochr i Gymru!

Odw, fi 'nôl yn yr internet cafe 'dodgy' unwaith eto i ddadansoddi'r penwythnos sy' wedi mynd heibio. Fi'n dechre dod yn eitha' cyfarwydd nawr â'r cwmpo mas, y dynion meddw a'r keybord sydd wedi colli rhan fwya' o'i lythrenne.

Fi wedi ca'l penwythnos eitha' llewyrchus, i fod yn onest, trwy eistedd ar fy mhen-ôl yn neud dim ond gwylio gwledd o chwaraeon. Penderfynes i ac un o'r bois funed ola' rhoi arian ar Chopra i sgorio gynta' i Gaerdydd. Glywon ni wedyn bod e ar y fainc a meddwl bod ni wedi gwastraffu'n arian ond 5 muned cyn iddyn nhw gico bant gath rhywun anaf wrth gynhesu a gymerodd Chopra ei le. Enillon ni 30 punt yr un - ma' dal llwnc tost da fi ar ôl iddo fe sgori!!!

Wel, ma'r penwythnos wedi hedfan unwaith eto!!! Dim geme Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ond digonedd o rygbi Cwpan Magners. Ma' fe'n amlwg bod y Gweilch yn gweld eisiau eu chwaraewyr rhyngwladol wrth iddyn nhw golli unwaith eto gartref yn erbyn tîm o Iwerddon. Ro'dd yn rhaid i'r Gweilch whare heb 16 chwaraewr rhyngwladol ac felly o'dd hi'n amlwg yn anodd i'r tîm cartref. Ro'dd gan Leinster dîm cryf o'i gymharu, gyda chwaraewyr fel Gordon Darcy, Shane Horgan a Contepomi. Nath y rhanbarth yn dda yn yr hanner cynta' ond dangosodd profiad Leinster yn y diwedd, er i'r Gweilch lwyddo i ennill pwynt bonws a allai fod yn bwysig erbyn diwedd y tymor.

Colli o'dd hanes y Dreigiau hefyd yn erbyn Munster o 20 pwynt i 9. Gem eitha' tanllyd ond ar yr un pryd yn eitha' di-sbarc, gyda'r glaw ar Rodney Parade yn effeithio ar lif y gêm. Gêm arall o'dd hi lle dangosodd y Dreigiau ddigonedd o galon ond yn anffodus heb gymryd cyfleoedd, ac yn y diwedd, colli.

Stori wahanol o'dd hi i'r Gleision, rhanbarth gore Cymru cyn belled y tymor hwn yn fy marn i. Enillon nhw oddi cartref yn erbyn Connacht gyda Robin Sowden Taylor yn sgorio'n hwyr yn y gêm. Trueni i Gymru bod Martyn Williams a Sowden Taylor yn whare yn yr un rhanbarth. Licen i weld Sowden Taylor yn symud i ranbarth gwahanol er mwyn ca'l geme cyson - bydde hyn yn beth da i dîm Cymru ac i ddatblygiad Sowden Taylor.

Ennill na'th Llanelli lawr ar Barc y Strade ond ma' rhaid i fi gyfadde', gwmpes i i gysgu hanner ffordd trwy'r ail hanner. Do'dd hi ddim yn gêm o safon o gwbl ond enillodd Llanelli, a dyna'r peth pwysig.

Welsoch chi dîm 7 bob ochr Cymru yn ennill yn erbyn Yr Ariannin i godi tlws Cwpan y Byd yn Dubai?? Da yw gweld y tîm yn neud yn dda yn enwedig wrth feddwl bod chwaraewyr fel James Hook wedi datblygu eu gêm yn ifanc wrth ware i dîm 7 bob ochr Cymru. Fi'n siŵr bydd ennill Cwpan y Byd yn dod ag ychydig o arian ychwanegol i'r tîm, platfform perffaith i chwaraewyr ifanc Cymru ennill profiad wrth whare'r ffordd Gymreig - rygbi deniadol a cyflym.

Fi'n mynd gartre nawr i fwynhau potel o gwrw a gwylio ffilm cyn dechre wythnos arall yn y gwaith. Yr Eidal penwythnos nesa' bois bach - ma' rhaid fi fod yn onest, fi'n eitha' nerfus wrth weld y newidiadau i gyd. Siarada i â chi cyn y gêm!!!

Rhys

Mae uchafbwyntiau Pencampwriaeth Cwpan y Byd 7 Bob Ochr y Byd ar S4C yn unig:

  • Nos Fawrth 10 Mawrth 22:00
  • Nos Sadwrn 14 Mawrth 21:20

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales