Nodion cyn nawr
- Diwedd y daith
- Pwyntie i'w profi yn erbyn Iwerddon
- Brwydr yn yr Eidal a gêm anferth i ddod!
- Antur Azzurri
- Cwpan Magners a Chwpan y Byd 7 Bob Ochr i Gymru!
- Dod dros Baris - mewn sawl ffordd
- 24 awr ym Mharis ond dychwelyd yn waglaw
- À Paris, mes amis!
- Caerdydd a Pharis - hanes dwy brifddinas
- Symud ymlaen - Caerdydd a Chwpan Magners
- Nid ar chwarae bach mae cael pen mawr!
- Taro'r Tri yn erbyn y Saeson?
- Y Ffordd ar Gau
- Rhys Evans - Ffan ar y Ffordd
Blogiadur Chwe Gwlad
Antur Azzurri
Dim ond dwy gem sydd ar ôl ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009!! Naaaa! Ma'r amser wedi hedfan heibio nag yw e? Fi'n dechrau poeni am beth fi mynd i neud ar ôl iddi gwpla!!! Y syniad dydd Sadwrn yw codi'n gynnar i weld Man U yn curo Lerpwl ac wedyn mynd i ganol Caerdydd i wylio'r rygbi. Diwrnod hir arall o yfed fi'n credu!! Lyfli!
Y tîm nesa' i herio Cymru yw'r Eidalwyr. Dyma dîm sydd heb ga'l llawer o lwyddiant mor belled yn y Bencampwriaeth ond sydd â record eitha' da yn erbyn y Cymry mas yn Rhufain. Ma' Gatland wedi penderfynu trawsnewid y tîm sydd wedi bod yn llwyddiannus mor belled gan newid 9 o'r chwaraewyr nath whare yn erbyn y Ffrancwyr bythefnos yn ôl.
On i'n edrych 'mlaen at weld Dwayne Peel yn whare, rhaid dweud, a pryd glywes i bod e wedi ca'l anaf ac yn mynd i golli gweddill y Bencampwriaeth, ges i'n siomi. Ma'n rhaid bod yr anaf wedi bod yn eitha' ergyd i Peel. O'r diwedd o'dd cyfle da fe i ddangos taw fe yw'r mewnwr gore yng Nghymru a chystadlu am le yn y tîm fydd yn whare yn erbyn Iwerddon wythnos nesa'. Gobeithio gwelwn ni fe nôl yn whare glou i ddangos i Ian McGeechan beth ma' fe'n gallu'i neud!
Ers i'r Bencampwriaeth ga'l ei thrawsnewid i gynnwys 6 gwlad yn lle 5, ma' time Prydain a Ffrainc wedi hanner disgwyl maeddu'r Eidal yn hawdd. Yn ddiweddar ma'r Eidalwyr wedi gwella, gan faeddu Cymru a'r Alban ar sawl achlysur. Chi'n cofio'r gem ddwetha' i Gymru ei cholli mas yn Rhufain, gyda'r dyfarnwr yn camarwain y chwaraewyr a'r cloc wedi rhedeg lawr heb yn wybod i Gymru? Fi'n cofio mynd yn wyllt!!
Fi'n credu taw'r Eidal yw'r tîm gwana' yn y Bencampwriaeth mor belled, ar ôl colli pob gem. Ma' nhw'n edrych yn eitha' hen ffasiwn ac ychydig tu ôl i Iwerddon, Cymru a Ffrainc. Y gwahaniaeth yw bod gan Gymru - a Ffrainc yn enwedig - chwaraewyr o safon trwy'r garfan i gyd, lle ma'r Eidal yn dibynnu ar chwaraewyr fel Sergio Parisse i serennu a chario gweddill y tîm. Er bod popeth yn pwynto at Gymru i ennill fi'n eitha' nerfus. Fi'n gobeithio bydd y newidiadau i gyd ddim yn effeithio ar batrwm chware Cymru.
Er y gofid, fi'n gweld hi'n eitha' agos am ran helaeth o'r gem ond bydd Cymru'n ennill yn y diwedd yn eitha' cyffyrddus. Fi'n mynd i ddarogan 5 cais i'r Cymry, 'da Mark Jones yn sgorio am y tro cynta' yn y Bencampwriaeth. Gobeithio i'r nefoedd bo' ni ddim yn colli, achos fi'n edrych mla'n i'r 'showdown' yn erbyn Iwerddon!!! Fi'n edrych ym mhob man am docyn i'r gem yn Gaerdydd, so os chi'n nabod rhywun sy' â thocyn sbâr, plis rhowch wybod i fi!!!!
Joiwch!
Hwyl am y tro,
Rhys
