Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Cwe Gwlad

Blogiadur Chwe Gwlad

Brwydr yn yr Eidal a gêm anferth i ddod!

Wel, penwythnos eitha' siomedig i fi wythnos 'ma. Man United yn colli gatre' yn erbyn Lerpwl, Abertawe yn colli gatre' i Crystal Palace, a Chymru'n ennill, ond dim o'r sgôr o'n i wedi ei obeithio. Fel wedodd y dyn tacsi wrtha i ar y ffordd adre', 'I can't see them beating Ireland by more than 20 points'. Ar ôl i Iwerddon ennill yn yr Alban, bydd yn rhaid i Gymru nid yn unig faeddu Iwerddon ond ennill o tua 25 pwynt. Ma' gan Gymru fynydd i'w ddringo ddydd Sadwrn nesa' os ma' nhw am ennill y Bencampwriaeth felly!!

Dydd Sadwrn

Penderfynon ni wylio gêm Cymru yn nhafarn y Wharf, sydd 30 eiliad o'r fflat, sy'n eitha danjerys, achos fi'n byw a bod 'na ers i fi symud 'nôl i Gaerdydd!!! Ethon ni mas yn y nos i Glwb Ifor Bach (fi'n byw a bod mewn fa'na hefyd!!). Fi'n poeni bo fi'n troi i fod yn 'alcoholic'!! O'dd yr awyrgylch yn eitha tawel o amgylch Caerdydd, gyda pawb efallai yn disgwyl i Gymru ennill yn hawdd, ac am gynilo'u harian cyn 'Grand Slam Saturday'.

Y gêm ei hun

Nath y newidiadau i'r tîm a ddechreuodd y gêm effeithio ar lif chware Cymru. Ro'dd hi'n amlwg bod rhai o'r chwaraewyr heb chwarae am sbel, gyda James Hook, er enghraifft, yn neud cwpwl o gamgymeriadau yn gynnar yn y gêm. Anaml yn ystod y gêm welon ni'r cefnwyr yn ymosod, gyda'r tîm yn penderfynu cico mewn sefyllfaoedd lle efallai bydde hi wedi bod yn well i redeg y bêl. Ar adegau o'dd y gêm mwy fel gêm tenis, gyda'r ddau dîm yn cicio'r bêl 'nôl a 'mlaen mor aml. Nethon ni ymosod unwaith yn yr hanner cynta' a nethon ni sgori, sy'n bwynt positif o feddwl y nifer o bwyntiau bydd angen i ni eu sgori ddydd Sadwrn. Bydd angen i ni gymeryd pob cyfle gewn ni!!

Elfennau positif

Pwynt positif o'r gêm o'dd yr amddiffyn, a o'dd yn gadarn trwy gydol y gêm. Er, fi'n siŵr bydd Gatland yn anhapus gyda'r nifer o gicie cosb nethon ni ildio. Rheina gadwodd yr Eidalwyr yn y gêm - anaml welon ni'r Eidalwyr yn bygwth llinell y Cymry.

Pan dda'th chwaraewyr fel Gethin Jenkins, Ryan Jones a Tom Shanklin 'mla'n, o'dd llawer mwy o bwrpas a strwythur i'r chware, a arweiniodd at y cais a enillodd y gêm. Fi'n siŵr taw tîm cwbl wahanol welwn ni ddydd Sadwrn, gyda Henson a Shanks yn ail-danio eu partneriaeth yn y canol, a Stephen Jones a Mike Phillips fel hanneri. Chwaraeodd Andy Powell a Lee Byrne yn eitha' da, mae'n rhaid dweud, a o'dd absenoldeb Adam Jones a Gethin Jenkins yn y rheng flaen yn amlwg. Fi'n edrych 'mla'n at weld tîm cryfa' Cymru dydd Sadwrn.

Edrych ymlaen

Wel, y 'grand finale' fydd hi 'de, gyda'r gêm fawr yn cico bant am hanner awr wedi 5! Gobeithio bydd hi'n gêm wych i gau'r Bencampwriaeth wrth i'r ddau dîm gore herio'i gilydd yn Stadiwm y Mileniwm. Er ei bod hi mynd i fod yn anodd, os gwelwn ni Gymru'n dechre'n dda, falle gallen nhw fynd 'mla'n ac ennill yn hawdd. C'mon bois!!! Siarada i â chi cyn bo hir, ar ôl i'r tîm ga'l ei ddatgan!!!

Rhys

  • Cymru v Iwerddon
  • Dydd Sadwrn 21 Mawrth 17:00 ar S4C

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales