Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Cwe Gwlad

Blogiadur Chwe Gwlad

Pwyntie i'w profi yn erbyn Iwerddon

Top of the morning to ya!!!

Tip i chi - er fi'n siŵr bo chi'n gwybod yn barod - peidiwch gwrando ar ddynon tacsi ar y ffordd gatre ar ôl noswaith mas wedi gêm ryngwladol yng Nghaerdydd, ma' nhw'n siarad rwbish!!! Trwy'r wythnos fi wedi bod yn eitha' digalon yn meddwl bod yn rhaid i Gymru ennill gan fwy nag 20 pwynt yn erbyn Iwerddon fory, ond newyddion da o lawenydd mawr! Ni dim ond gorfod ennill o 13 pwynt i ennill y Bencampwriaeth - ma' gwir siawns 'da ni 'de.

Lleoliad newydd i flogio

Fi'n ysgrifennu o'r llyfrgell newydd sbon yng nghanol Caerdydd, tipyn yn wahanol i'r 'internet cafe' dieflig rwy wedi bod yn treulio rhan fwyaf o'n amser, ma'n rhaid gweud. Rwy'n eistedd wrth gyfrifiadur yng nghanol y llyfrau chwaraeon 'da sŵn rhywun yn whare'r piano yn atsain drwy'r llyfrgell! Posh iawn!

Y dydd Sadwrn Mawr

Wel, ma' 'Grand Slam Saturday' yn nesàu ac ar ddiwedd y penwythnos bydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad drosodd am flwyddyn arall (trist iawn, feri sad), ond ma'r Cymry dal yn y ras i gwpla ar ben y tabl. Rhywbeth ni'n dechrau dod yn gyfarwydd ag e, bois!! Beth chi'n meddwl o ddatganiad Gatland am y Gwyddelod 'de? Ma' fe wedi gweud yn ystod yr wythnos bod chwaraewyr Cymru ddim yn hoff iawn o chwaraewyr Iwerddon. Datganiad od iawn ma' rhaid fi weud. Walle bod e'n trial corddi'r Gwyddelod, ond mae'n rhaid gweud dyna'r peth ola' bydde ni'n meddwl bod e am wneud!! Digwyddodd rhywbeth tebyg cyn gêm Man United a Lerpwl penwythnos diwetha', lle wedodd Wayne Rooney bod e'n casàu Lerpwl, a beth ddigwyddodd?? Dath Lerpwl mas i brofi pwynt ac efallai i dalu'r pwyth yn ôl, ag ennill 4-1 yn Old Trafford!! Gobethio bydd rhywbeth tebyg ddim yn digwydd yn Stadiwm y Milleniwm fory!!

Beth am y tîm?

Rwy'n falch iawn gyda'r tîm ma' Gatland wedi dewis. Ma' digonedd o brofiad yn y tîm, gyda bron pawb wedi dangos fflachiade o whare da yn ystod y pedair gêm gynta'. Rwy'n edrych mla'n yn enwedig at weld Henson a Shanks yn ca'l eu cyfle i ail danio'u partneriaeth yng nghanol y cae. Ma' Shanklin yn whare'n wych ar hyn o bryd a glywes i ystadegyn yn ystod yr wythnos bod Henson heb golli gêm yn erbyn tîm o Hemisffêr y Gogledd erioed. Gobeithio bydd hwnna ddim yn newid dros y penwythnos. Am y tro cynta' hefyd ers rhai tymhorau ma' Brian O'Driscoll, capten Iwerddon, wedi llwyddo i ddarganfod ychydig o'r sbarc a odd gyda fe ar ddechre ei yrfa rhyngwladol. Ma' fe wedi ca'l Pencampwriaeth wych mor belled, ond y gêm yn erbyn Cymru bydd yr anodda rwy'n siŵr. Ma' Shanklin a Henson ar sawl achlysur wedi llwyddo i gadw O'Driscoll yn dawel, yn enwedig yn 2005, lle enillodd Cymru y Grand Slam. Bydd hyn yn allweddol i'r gêm.

Yr wyth hanfodol

Cafodd y rheng flaen yn erbyn yr Eidalwyr eitha' crasfa, felly da yw gweld Adam Jones a Gethin Jenkins yn dychwelyd i'r tîm, gyda Ian Gough yn yr ail rheng i ychwanegu ei bwysau a'i dechneg yn y sgarmes. Bydde unrhyw flaenwr yn gweud wrho chi - ma'r gêm yn ca'l ei hennill a'i cholli yn yr wyth blaen, a bydd hwn yn wir fory yn enwedig. Bydd yn rhaid i Gymru ennill yr ornest i ennill y gêm, ac efallai i unigolion ennill eu lle ar daith y Llewod i Dde Affrica yn yr haf. Bydde platfform da yn yn galluogi i'r olwyr ga'l pêl gyflym a glân er mwyn i Gymru ddangos i bawb y gêm agored wych ni'n gwybod ma' nhw'n gallu whare!! Er bydd yn rhaid i ni gymryd pob siawns i ennill o fwy na 13 pwynt.

Penwythnos brysur

Ma' cwpwl o ffrindiau'n dod i aros yn y fflat dros y penwythnos a ni'n bwriadu gwylio'r gêm unwaith eto yng nghanol y ddinas. Bydd yn rhaid i ni adel yn gynnar os ni am ga'l safle da yn y dafarn fi'n siŵr. Fi heb lwyddo i ffeindio tocynne i'r gêm fel chi'n gweld. Walle bod e'n beth da, achos fi dal yn talu am y trip i Ffrainc!!! Well i fi fynd, ma' sŵn y piano'n dechre mynd ar fy nerfau - walle bo' well 'da fi regi'r dyn yn yr Internet caffi wedi'r cwbl!! Siarada i 'da chi ddydd Sul am y tro ola' 'de - dim dagre nawr, plis!!!

POB LWC CYMRU!!!!!!!!!!!!!!!

Rhys

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales