Nodion cyn nawr
- Diwedd y daith
- Pwyntie i'w profi yn erbyn Iwerddon
- Brwydr yn yr Eidal a gêm anferth i ddod!
- Antur Azzurri
- Cwpan Magners a Chwpan y Byd 7 Bob Ochr i Gymru!
- Dod dros Baris - mewn sawl ffordd
- 24 awr ym Mharis ond dychwelyd yn waglaw
- À Paris, mes amis!
- Caerdydd a Pharis - hanes dwy brifddinas
- Symud ymlaen - Caerdydd a Chwpan Magners
- Nid ar chwarae bach mae cael pen mawr!
- Taro'r Tri yn erbyn y Saeson?
- Y Ffordd ar Gau
- Rhys Evans - Ffan ar y Ffordd
Blogiadur Chwe Gwlad
Diwedd y daith
Prynhawn da!! Odw, fi'n ysgrifennu o'r gwely a'n diodde' o hangover huge - o'dd hi'n ddiwrnod grêt er i ni golli. Ma'r Bencampwriaeth wedi cwpla am flwyddyn arall ac unwaith eto ni wedi bod yn dyst i 'Grand Slam', ond yn anffodus nid y Cymry sydd wedi llwyddo'r tro hwn.
Caerdydd yn troi'n wyrdd
O'dd hi fel syrcas ym mhrifddinas Cymru ddoe!! Fi byth wedi gweld cymaint o Wyddelod yn yr un lle erioed!! Dihunes i yn y bore ag edrych mas trwy ffenest y fflat (sydd drws nesa i 'Travelodge') i weld 5 bws llawn cefnogwyr Iwerddon yn troi mewn i'r maes parcio. O'dd mwy o wyrdd yn y ddinas na o'dd o goch, gyda pawb yn cymysgu a'n mwynhau'r awyrgylch.
Y gêm
O'dd y gêm ei hunan yn llawn tensiwn a drama lle ar hanner amser on i'n siŵr bo' ni'n mynd i ennill. Ond dath y trobwynt ar ôl hanner amser, lle sgorodd Iweddon ddwywaith i fynd ar y blaen o 8 pwynt. Galle Stephen Jones fod wedi ennill y gêm i Gymru ond methodd ei gic o hanner ffordd at y pyst yn eiliadau ola'r gêm - on i jyst â llefen. Am bo ni wedi colli am yr ail waith yn y Bencampwriaeth, a hefyd achos bod Ffrainc a Lloegr wedi sgori cynifer o bwyntiau, gwplon ni lan yn 4ydd yn y tabl!!! Ma' rhaid fi weud, fi'n credu bod ni'n well tîm na'r Ffrancod a'r Saeson ar y foment, a dyw cwpla'n 4ydd ddim yn dangos gwir ddarlun o'r Bencampwriaeth, yn enwedig am i ni faeddu'r Saeson!
Dathlu gwyllt
O'dd rhyw deimlad o amgylch y ddinas ddoe taw diwrnod i'r Gwyddelod o'dd hi a fydde ennill yn eiliadau ola'r gêm wedi bod yn dorcalonnus iddyn nhw. Wedi'r cyfan, ni wedi llwyddo i ennill y Gamp Lawn ddwywaith yn y pum mlynedd dwetha, a tro Iwerddon o'dd hi i ddathlu. Wedi'r chwiban ola' ath cefnogwyr Iwerddon yn wyllt yn canu a dawnsio ar y strydoedd (rhai ohonyn nhw yn noethlymyn!!). O'dd yr awyrgylch yn wych er i ni golli, whare teg!! Ethon ni mas yn y nos, ond do'dd dim llawer o gryse gwyrdd ar ôl - fi'n credu o'dd lot ohonyn nhw wedi gorfod mynd gatre i'r gwesty yn gynnar am bo' nhw wedi yfed gormod - neu o'n nhw'n sobri lan yng Ngharchar Caerdydd am 'indecent exposure'.
Y blog olaf
Wel dyma blog ola Pencampwriaeth y Chwe Gwlad y flwyddyn hon, ond ma' lot fawr i edrych mla'n ato, gyda'r Gleision a'r Gweilch dal yn gobeithio ennill y Cwpan Heineken. Bydd y Gweilch yn whare Munster yn y rownd nesa', a bydd yn gyfle i rai o chwaraewyr Cymru dalu'r pwyth yn ôl ar ol y golled yng Nghaerdydd. Gobeithio welwn ni lot o chwaraewyr Cymru yn whare gyda'r Llewod yn Ne Affrica hefyd, ac yn neud yn dda wrth i Gymru herio time Hemisffêr y De yn yr Hydref.
Hwyl fawr!
Mae'n bryd felly i fi weud hwyl am y tro ola'! Mae wedi bod yn Bencampwiaeth o fwynhâd ond hefyd siom - teimladau sy'n dod yn naturiol i gefnogwr rygbi Cymru erbyn nawr, ond fydden i ddim yn newid y profiad am y byd!! Gobeithio bo chi wedi mwynhau dilyn Cymru'r flwyddyn hon hefyd - Dulyn a Twickers fydd hi flwyddyn nesa, ni wedi bod yn trefnu'r tripie yn barod!! Cymru = Pencampwyr y Chwe Gwlad 2010!!! Fi'n mynd lawr i roi bet bach arno fe prynhawn 'ma, fi'n credu!!!
Hwyl Fawr!!!
Rhys




