Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Cwe Gwlad

Blogiadur Chwe Gwlad

Y Ffordd ar Gau

Er yr holl gynllunio nethon ni ddim mentro i'r Alban wedi'r cyfan. Dihunes i bore dydd Sadwrn yn y gobeth bydden ni'n penderfynu risgo fe, ond wrth i fi agor y cyrtens a gweld bod Alltwen yn wyn a phont Hafren ar gau - the dream was over! (ar y newyddion weles i fod Pont Hafren ar gau, nage o'r ffenest, gyda llaw). Os taw Martin Luther King o'n i, bydden i wedi gweud: "I have a dream… but the snow has just blydi ruined it". On i'n timlo'r fflat i fod yn onest.

Odd hi'n anodd gwylio'r cefnogwyr i gyd yn eu coch yn cerdded yn eu cannoedd lawr Princes Street yn Nghaeredin a fi yn styc yn y tŷ, ond ma' fe 'di neud fi'n fwy penderfynol fyth i fynd mas i Baris neu Rhufain. Felly os oes rhywun o'r WRU yn darllen a'n wilo am boot cleaner, neu hyd yn oed rhywun i gario bags llawn fake tan i Gav, Hook a Byrne, fi'n hapus i neud e. Wrth feddwl am y peth, pwy sy'n golchi cryse'r chwaraewyr ar ôl y gêm?? Interesting thought!! Chi'n meddwl bod mame neu gwragedd y bois yn mynd a nhw gatre i olchi fel on i'n arfer neud yn ysgol?? Fi'n gallu gweld Gav nawr yn mynd gatre at Charlotte 'da pymtheg set o gryse rygbi brwnt: "Char, it's your turn to do the kits", "Forget about the kits, Gav what about the kids?! Dexter's already started shaving his legs"!!!!

Anyhoo… Chi wedi mwynhau'r wledd o rygbi dros y penwythnos (ond am gêm Lloegr fi'n siŵr, mwy fel snack na gwledd)?? Wotches i Gymru yn ware yng nghwmni pedair merch sy'n ffans rygbi brwd ac un o'r bois (diolch byth) yn Walkabout yn Abertawe. Dal i stryglan oherwydd gormod i yfed ar y nos Sadwrn, felly pawb yn yfed cola, ond odd neb yn llai swnllyd, yn enwedig un o'r merched pryd da'th James Hook ar y cae: 'www ma fe'n lyfli'. Atgoffwch fi i wotchan y gêm 'da mwy o fois tro nesa'.

Enillodd Cymru'n eithaf cyffyrddys yn do fe? On nhw wedi delio da'r pwyse o fod yn ffefrynne yn dda. Galle anaf funed olaf cyn y gêm i'r capten Ryan Jones fod wedi effeithio ar y tîm ond chwaraeodd y bois yn wych. Odd y Cymry yn edrych ddwywaith seis yr Albanwyr ac yn croesi'r linell fantais gyda phob rhediad, Jamie Roberts yn enwedig. Rwy'n siŵr bydd Shaun Edwards yn anhapus ar ôl ildio cais ond ar wahan i hynny ro'dd amddiffyn y Cymry yn gadarn a'r sgrym yn rhyfeddol o bwerus. Roedd hefyd agwedd ddidostur y chwaraewyr yn amlwg, agwedd sydd wedi bod ar goll yn nhîm Cymru ac un or rhesymau am lwyddiant Seland Newydd cyhyd.

Yr unig nodyn trist o'dd gweld Shane yn gorfod gadel y cae oherwydd anaf i'w bigwrn. Gobitho bydd e'n ffit ar gyfer ware'r hen elyn wythnos nesa' ro'dd ei ddonie fe a'i sgiliau yn amlwg yn erbyn yr Alban. 'Na i gadw golwg ar y sefyllfa i chi.

Well i fi fynd, mae'n dechre mynd yn hwyr a ma' gwaith 'da fi yn y bore. Amser i freuddwydio am Gymru yn maeddu Lloegr o 40 pwynt, pwy a ŵyr – walle deiff y freuddwyd yn wir…

Rhys

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales