Nodion cyn nawr
- Diwedd y daith
- Pwyntie i'w profi yn erbyn Iwerddon
- Brwydr yn yr Eidal a gêm anferth i ddod!
- Antur Azzurri
- Cwpan Magners a Chwpan y Byd 7 Bob Ochr i Gymru!
- Dod dros Baris - mewn sawl ffordd
- 24 awr ym Mharis ond dychwelyd yn waglaw
- À Paris, mes amis!
- Caerdydd a Pharis - hanes dwy brifddinas
- Symud ymlaen - Caerdydd a Chwpan Magners
- Nid ar chwarae bach mae cael pen mawr!
- Taro'r Tri yn erbyn y Saeson?
- Y Ffordd ar Gau
- Rhys Evans - Ffan ar y Ffordd
Blogiadur Chwe Gwlad
Taro'r Tri yn erbyn y Saeson?
Ŵŵŵ, ma penwythnos grêt o'n blaenau ni bois (a lêdis)! I ddechre ma' Abertawe yn ware Fulham yng Nghwpan yr F.A bore dydd Sadwrn lawr yn y Liberty (c'mon yr Elyrch!!!). Yn ail, ma'r Gêm Fawr am 5.30. Ac yn drydydd, fi'n gwylio'r ddwy gêm yng Nghaerdydd yng nghanol yr awyrgylch i gyd. Mae'n mynd i fod yn ddiwrnod hir felly ymddiheuriadau ymlaen llaw am y lluniau!!!
Odi, mae'r amser wedi dod unwaith eto i ni herio Lloegr, yr hen elyn, y bois drws nesa'. Rwy'n llawn nerfau wrth feddwl am y gêm. Gêm sydd bob amser yn 'spesial' yn enwedig wrth i’r ddwy wlad gwrdd ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Ma' pawb yn cofio'r gêm yna yn Wembley, sef gêm 'gatre' i Gymru wrth i Stadiwm y Mileniwm gael ei adeiladu. Er taw Lloegr oedd y tîm gorau ar y pryd, llwyddodd Neil Jenkins i gadw ni yn y gêm trwy gicio'n berffaith. Wrth i'r gêm ddod i'w derfyn ro'n ni ar ei hôl hi a Clive Woodward yn hyderus bod ei dîm wedi ennill y Bencampwriaeth. Y stori o'dd bod e wedi gadel ei sedd yn yr eisteddle 5 munud cyn y gic olaf a cherdded i sefyll o flaen eilyddion Cymru. Gofynnodd (yn uchel) i'r staff os gallen nhw roi rubanau gwyn ar y cwpan yn gynnar achos o'dd y Saeson yn siŵr o ennill. Ond wrth gwrs, o'dd Scott Gibbs heb ddarllen y sgript, a sgorodd yn y funud ola' i sbwylo parti Clive a'i chwaraewyr. 'Na wers glou i Clive i bido rhoi'r cart o flaen y ceffyl!
Ma'r tîm wedi ei enwi 'de! Fel mae'n sefyll am 13.22 prynhawn dydd Iau wrth i fi fwyta pasti caws (caws Caerffili a nid Wensleydale gobeithio) wrth fy nesg yn gwaith ma' Shane Williams wedi ei enwi yn y tîm i ware ddydd Sadwrn. Er, nid yw'r dewis wedi ei gadarnhau yn gyfan gwbl. Bydd Shane ac Andy Powell, sydd hefyd yn cario anaf, yn gorfod pasio prawf ffitrwydd ddydd Gwener er mwyn dangos i Gatland eu bod yn barod i herio'r Saeson. Mae'r capten Ryan Jones hefyd yn dychwelyd i'r tîm ac yn cymryd lle Dafydd Jones fel blaen asgellwr.
Gallen ni faeddu Lloegr yn y Bencampwriaeth am y trydydd tro yn olynol dydd Sadwrn ar ôl i ni ennill yn Stadiwm y Mileniwm yn 2007, ac yn fwy pwysig fyth, llynedd yn 'Twickers, darling', neu 'HQ'. C'mon bois!!!!
Pwynt positif arall yw ar ôl ennill yn erbyn Yr Alban wythnos diwethaf, ni wedi ein rancio fel y 4ydd tîm gorau yn y byd - ai ni yw'r tîm gorau yn hemisffêr y gogledd felly? Trafodwch!! Well i fi fynd, ma'n amser cino i ar ben, a ma' pishis o basti yn bob man!! Hwwwwwwwwwwwwyl!!!! O ay, bron i fi anghofio – Cymru 18 Lloegr 12! Peidwch gadel ni lawr bois!!!
Rhys





