Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad

Blogiadur Chwe Gwlad

Nid ar chwarae bach mae cael pen mawr!

Bois bach ma'n ben i'n hollti!! Mae'n bump o'r gloch y prynhawn a rwy'n dal i ddioddef ar ôl diwrnod ardderchog i Gymru ddoe. Caerdydd, yn bendant, yw'r ddinas orau i fod yn ystod Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, yn enwedig yn ystod gêm fwya’r flwyddyn wrth i Gymru herio'r hen elyn, Lloegr. Welon ni'r gêm mewn tafarn yn y ddinas, tafarn a oedd yn orlawn o gefnogwyr Cymru. Beth bynnag, roedd yna un cefnogwr yn gwisgo crys Lloegr â balchder ac yn canu pob gair o 'God Save The Queen' ar ddechre'r gêm! Dyn dewr iawn whare teg!!

Perfformiad cadarn unwaith eto gan y Cymry er taw nage 'Valentine's Day Massacre' ddigwyddodd fel o'dd llawer wedi darogan. Roedd yn berfformiad proffesiynol. Roedd gwahaniaeth mawr rhwng tîm Lloegr a ennillodd yn erbyn yr Eidal a'r tîm wnaeth Cymru faeddu. O'dd hi’n amlwg bod y Saeson yn benderfynol o berfformio'n dda yng Nghaerdydd ac roedden nhw wedi ennill ychydig o barch o ganlyniad. Anodd cofio'r tro diwethaf i Gymru fod yn ffefrynau clir wrth fynd i mewn i'r gêm a ro'dd y rhyddhad yn amlwg yng Nghaerdydd ac, yn wir, yng Nghymru gyfan wrth i'r chwiban olaf seinio.

Chwaraeodd y pac yn dda unwaith eto mewn gêm fwy corfforol na'r gêm yn erbyn yr Alban. Trist oedd gweld tactegau negyddol y Saeson ond cafodd y dyfarnwr gêm dda a'u cosbi ar sawl achlysur wrth iddyn nhw geisio arafu'r chware. Yn ystod y gêm cafodd ddau o chwaraewyr Lloegr eu hanfon i'r gell gosb. Roedd hyn yn adlewyrchiad o'r pwysau ro'dd Cymru yn eu rhoi ar eu gwrthwynebwyr.

Cafodd Leigh Halfpenny gêm dda unwaith eto whare teg, ac ma fe'n edrych yn gyffyrddus ar y lefel uchaf. Ychwanegodd gais arall at yr un a sgoriodd yn erbyn yr Alban hefyd. Stephen Jones hefyd yn cicio'r cicie cosb hanfodol i sicrhau bod Cymru ar y blaen drwy gydol y gêm.

Ar ôl y gêm aethon ni i dafarn newydd y Fuwch Goch sydd gyferbyn â Chlwb Ifor Bach. Neis i ga'l tafarn yng nghanol y ddinas sy'n llawn staff sydd gallu siarad Cymraeg! Ro'dd yr awyrgylch yn wych yn y Fuwch wrth i bawb ddathlu buddugoliaith (arall) yn erbyn y cryse gwynion!! Does dim byd yn debyg i guro Lloegr!!

Dwy gêm wedi eu whare felly, a dwy fuddugoliaeth i Gymru. Ffrainc sydd nesa' ymhen pythefnos, y gêm galeta fi'n credu. Os enillwn ni yn erbyn y Ffrancod bydd gwir siawns 'da ni i ennill y Gamp Lawn unwaith eto. Gobeithio y bydda i'n bresennol ym Mharis ar y nos Wener, rwy'n croesi popeth sy 'da fi!!! Siarada i 'da chi eto cyn bo hir. Au revoir!!

Rhys

P.S Newydd glywed bod Abertawe 'da'r potensial i fod yn whare Man United yng Nghwpan yr FA!! Galle Giggs, Ronaldo a Rooney fod yn whare lawr yn y Liberty felly!!!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales