Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad

Blogiadur Chwe Gwlad

Symud ymlaen - Caerdydd a Chwpan Magners

Oi oi! Newyddion da o lawenydd mawr, gyfeillion! Fi o'r diwedd wedi llwyddo i ffeindio fflat yn Gaerdydd a bydda i'n symud mewn dros y penwythnos. Dim mwy o gwcan Mami so fi mynd i stryglan. Fi'n gallu gweld penawde'r Western Mail nawr - 'Greggs make record profits as fatty Evans moves back to the city'. Gair o gyngor i Greggs felly, 'fi nôl a fi'n starfo'.

Peidiwch â panico!!! Odi, ma' Pencampwriaeth y Chwe Gwlad yn cael seibiant am wythnos ond ma' penwythnos llawn rygbi o'n blaenau. Ma'r Cwpan Magners yn dychwelyd, a gyda fe, siawns i weld shwd ma' rhai o chwaraewyr carfan Cymru yn whare. Bydd rhanbarthe Cymru i gyd yn whare, felly bydd chwaraewyr fel Jonathan Thomas a Robin Sowden Taylor, sydd heb whare o gwbl yn ystod geme cyntaf Cymru, yn ca'l siawns i ddangos eu doniau. Ar yr un pryd ma' Peel a Cooper yn dychwelyd i'w time dros y ffin yn Lloegr. Rwy'n siŵr y bydd perfformiadau'r ddau yn cael eu gwylio'n ofalus gan dîm hyfforddi Cymru gyda'r ddau'n ymladd am le ar y fainc yn erbyn y Ffrancod.

Bydd y rhanbarthe i gyd yn whare gartre dros y penwythnos. 'da Gleision Caerdydd yn herio Glasgow yn gyntaf heno. Whare teg, y Gleision yw'r tîm i faeddu yng Nghwpan Heineken y flwyddyn hon wrth iddyn nhw ennill y geme grŵp i gyd. Mae'n hawdd gweld pam hefyd wrth weld Gethin Jenkins, Jamie Roberts a Martyn Williams yn serennu dros Gymru. Stori wahanol yw hi er hyn yng Nghwpan Magners, gyda'r Gleision yn llusgo'u traed ar waelod y tabl. Y pwyslais eleni, yn amlwg, yw Cwpan Heineken. Trist yw clywed bod Rhys Williams wedi ei anafu unwaith eto - chwaraewr da a oedd yn rhan o dîm Cymru a enillodd y Gamp Lawn yn 2005, ond sydd wedi dioddef anafiadau cas i'w ben-glin ers hynny. Gobeithio gwelwn ni fe 'nôl yn whare i Gymru cyn bo hir.

Welwn ni'r Sgarlets yn whare Leinster brynhawn Sadwrn yn eu stadiwm newydd sbon, Parc y Scarlets. Gêm bwysig iddyn nhw gyda'u gwrthwynebwyr ond ychydig o bwyntiau uwch eu pennau yn y tabl. A ddylai Mark Jones fod wedi cael ei ryddhau ar gyfer y gêm, 'na'r cwestiwn. Galle gêm ar y penwythnos fod wedi gwella ei ffitrwydd rhyw ychydig ar ôl y diffyg gemau mae e wedi eu cael yn ddiweddar. Er hynny, gydag anaf i Mark Jones, galle anaf hefyd i Shane neu Halfpenny ym Mharis fod yn broblem. Galle rhoi sbel i Jones fod yn benderfyniad doeth, felly.

Jonathan Thomas fydd y dyn i wylio wrth i'r Gweilch groesawu Connacht ddydd Sul, chwaraewr sydd yn gallu chware mewn unrhyw safle. Chwaraewr defnyddiol iawn i Gymru felly. Calonogol yw gweld tîm y Dreigiau hefyd yn chware yn dda - yn rhy aml gwelwn ni'r tîm yn chware'n wych ond yn colli ym munudau ola'r gêm. Bydd Ulster yn ymweld â Rodney Parade ddydd Sul gyda Kevin Morgan, chwaraewr ma' pawb wedi anghofio amdano oherwydd anafiadau gwahanol, yn dychwelyd i'r tîm. Dyma gêm fydd y Dreigiau wedi ei dargedu i ennill rwy'n siŵr.

Amser cyffrous felly i rygbi yng Nghymru. O aye, mae'n edrych fel bo fi wedi llwyddo i ga'l tocyn ar gyfer gêm Cymru nos Wener nesa' ym Mharis!!! Eglura i wrthoch chi tro nesa'. Well i fi fynd 'de, ar y ffordd lawr i'r 'local' am y drinc ola' cyn symud i'r ddinas fawr ddrwg. Hwyl am y tro!!!!!

Rhys

  • Cynghrair Magners

  • Nos Wener 20 Chwefror
  • Gleision Caerdydd v Glasgow Warriors
  • Dydd Sadwrn 21 Chwefror
  • Sgarlets v Leinster - 17:10 ar S4C
  • Dydd Sul 22 Chwefror
  • Gweilch v Connacht Rugby - 14:00 ar S4C
  • Dydd Sul 22 Chwefror
  • Dreigiau Casnewydd v Ulster Rugby - 16:00 ar S4C

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales