Nodion cyn nawr
- Diwedd y daith
- Pwyntie i'w profi yn erbyn Iwerddon
- Brwydr yn yr Eidal a gêm anferth i ddod!
- Antur Azzurri
- Cwpan Magners a Chwpan y Byd 7 Bob Ochr i Gymru!
- Dod dros Baris - mewn sawl ffordd
- 24 awr ym Mharis ond dychwelyd yn waglaw
- À Paris, mes amis!
- Caerdydd a Pharis - hanes dwy brifddinas
- Symud ymlaen - Caerdydd a Chwpan Magners
- Nid ar chwarae bach mae cael pen mawr!
- Taro'r Tri yn erbyn y Saeson?
- Y Ffordd ar Gau
- Rhys Evans - Ffan ar y Ffordd
Blogiadur Chwe Gwlad
Caerdydd a Pharis - hanes dwy brifddinas
Shwd mae?? Heb ga'l internet yn y fflat newydd eto, felly fi'n ysgrifennu o internet cafe 'dodgy' yn y ddinas - fi ddim yn bwriadu bod yn hir felly :s
Penwythnos o'dd hi i chwaraewyr y rhanbarthe ga'l cyfle i atgoffa tîm hyfforddi Cymru bod talent trwy gydol strwythur y gêm yng Nghymru. Cafodd llawer o chwaraewyr ifanc siawns i serennu, yn ogystal â chwaraewyr mwy profiadol sydd yn siomedig i beidio bod yn rhan o Bencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Newydd wylio'r Dreigiau yn curo Ulster ar S4C, gem eitha' cyffrous mae'n rhaid gweud, gyda Jason Tovey yn sgorio 'hat-trick'. Fi heb glywed lot amdano fe, mae'n rhaid fi fod yn onest, ond ma fe'n amlwg yn chwaraewr i edrych mas amdano yn y dyfodol. Er gwaetha' i Tovey sgorio rhan helaeth o bwyntiau'r Dreigiau, Richard Fussel a gafodd ei enwi yn seren y gêm. Dylanwadodd ar y gêm droeon ac o'n i'n teimlo bod e'n rhan o bob symudiad i'r tîm cartref. Mae Fussel wedi cael tymor gwych, ac wedi bod yn anlwcus yn fy marn i, fod e heb ga'l siawns i fod yn rhan o garfan Cymru. Fi'n siŵr bod gan Gatland ei lygad arno fe ac yn monitro'i ddatblygiad yn agos.
Enillodd y Gleison nos Wener hefyd yn erbyn Glasgow ar Barc yr Arfau. Gêm ddiddorol hefyd, wrth i Jamie Robinson sgorio dwy gais i selio'r fuddugoliaeth. Mae straeon ar led fod y brodyr Robinson wedi denu sylw Toulon yn Ffrainc a Sale yn Lloegr. Galle hyn fod yn arwydd o broblemau sydd i ddod i rygbi Cymru yn fy marn i. Gyda thime yn Ffrainc yn talu tair gwaith yn fwy na'r time ym Mhrydain, mae'n anochel y bydd rhai o chwaraewyr Cymru yn cael eu denu i whare draw yn Ffrainc. Diddorol felly bydd clywed barn Gatland am y peth ar ôl iddo ddweud ei bod hi'n bwysig i chwaraewyr sydd am whare i'r tîm cenedlaethol aros yng Nghymru i whare.
Collodd y Sgarlets gatre yn erbyn Leinster, sydd yn ergyd i'w hymgeision i ennill y Gynghrair. Ma' anaf hefyd i Regan King yn ergyd ychwanegol i chwaraewr sydd yn allweddol i lwyddiant y Sgarlets. Gêm eitha' flat o'dd hi lawr yn y Liberty, ond da oedd gweld chwaraewyr ifanc y rhanbarth yn cael cyfle i chwarae yn absynoldeb y 'big guns'. A nath Jonathan Thomas ddigon i ennill i le ar y fainc yn erbyn Ffrainc? Falle bod y ffaith ei fod yn gallu whare yn yr ail reng ac yn y rheng ôl yn ddigon. Bydd Gatland a'r tîm yn falch o'i weld yn whare unwaith eto.
Fi wedi llwyddo i ga'l tocyn i'r gêm nos Wener ym Mharis!! Woohooo!! Ma'n edrych fel bo ni'n drifo lawr ddydd Gwener erbyn cic off am 9 yn y nos. Amser od i wylio gem o rygbi, nag yw e?? Gobeitho bydda i dal yn ddigon sobor i gofio'r gêm!!!! Fi'n clywed bod Gatland yn enwi'r tîm heddi. Fydd Henson yn cymryd rhan yn y gêm, chi'n meddwl, ar ôl ei antics wythnos diwethaf? Bydd yn ddiddorol i weld!! Well i fi fynd, siarada i 'da chi eto cyn i fi adel am ddinas y cariadon.
Hwyl am y tro,
Rhys
