Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Cwe Gwlad

Blogiadur Chwe Gwlad

À Paris, mes amis!

Wrth i chi ddarllen hwn fi mwy na thebyg mewn cefen car yn beltan lawr tuag at Paris ar gyfer y gêm fawr. Fel wedes i wythnos diwetha', 'ma 5 o ni wedi llwyddo i ga'l gafel ar docynne i weld Cymru heno mas yn Ffrainc - happy days.

Fi wedi paco un pâr o bants a cenhinen inflatable, a wedi dysgu cwpwl o eiriau allweddol a alle fod yn handi ym Mharis, fel: 'Bonjour butt', 'Vive le Pays de Gallois', a 'Je suis relaté à Shane Williams' (fi'n perthyn i Shane Williams). Fi ddim really ond man a man trio fe 'da'r menywod. Fi'n gweithio ar gyfieithu: 'Ma' Alun Wyn Jones yn bwyta brogaod i frecwast' hefyd.

Shwd ma'r wythnos yn y gwaith wedi bod 'de? Ddim rhy ffôl gobeithio!! Walle bo nhw'n galw Paris yn ddinas y cariadon ond fi ffili gweld lot o gariad rhwng y ddou dîm heno. Hon yw'r gêm fwyaf i Gymru fi'n credu, ac yn llawn haeddu ca'l ei alw'n 'le crunch' neu gêm y Bencampwriaeth.

Ma' pethe'n edrych yn eitha' calonogol i Gymru. Shane a Gav yn holliach, a'r garfan wedi ca'l penwythnos i orffwys. Ma'r Ffrancod ar y llaw arall wedi bod yn bwrw lwmps mas o'i gilydd wrth i glybie Ffrainc whare yn y Gynghrair. I ychwanegu at anfodlonrwydd rheolwr Ffrainc, Marc Lièvremont, cafodd Beauxis y maswr ei anafu wrth whare i Stade Français, ergyd ychwanegol i baratoadau'r tîm.

Ma' fe wedi ca'l ei orfodi i ddewis y canolwr Baby yn safle'r maswr felly, chwaraewr sydd heb whare llawer fel rhif 10, yn enwedig ar y lefel uchaf. Penderfyniad diddorol, ond bydd Baby yn siŵr o ychwanegu at amddiffyn y tim cartre. Fi'n falch gweld Baby yn whare mewn safle anghyfarwydd, ma' rhaid fi fod yn onest. Tro diwethaf iddo fe whare Cymru fel canolwr, rhwygodd e amddiffyn y cochion yn rhacs!!! Bydd Gatland yn neud yn siŵr fod y tîm yn targedu Baby, saff i chi. Diddorol hefyd bydd gweld pwy fydd yn cicio at y pyst i'r Ffrancwyr am fod neb yn y tîm â lot o brofiad yn y maes.

Ein bwriad ni yw cyrra'dd Paris erbyn 4 o'r gloch y prynhawn, syth mewn i'r ddinas i fwynhau'r awyrgylch cyn dala'r métro i'r stadiwm yng ngogledd Paris. Gwylio Cymru'n maeddu'r Ffrancwyr unwaith eto ym Mharis (gobeithio), wedyn 'nôl i'r ddinas fawr ddrwg i ddathlu. Smo fi'n gweld lot o'r chwaraewyr yn dathlu ym Mharis os byddan nhw'n ennill nos Wener ar ôl beth ddigwyddodd yng Nghaerdydd ar ôl maeddu Lloegr. Neu os ma' nhw mas fi'n siŵr fydd neb yn mynd yn agos at 'pool table'.

Well i fi fynd - ma' ishe paratoi arno fi a prynu euros ar gyfer y trip. Gobeithio bydda i'n ôl erbyn dydd Sul i ddala lan â chi 'to!! Cymru 32 - Ffrainc 29, Leigh Halfpenny i sgorio'i drydydd cais yn y Bencampwriaeth yw 'marn i!!! Joiwch y gêm!!!

Au revoir

Rhys

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales