Nodion cyn nawr
- Diwedd y daith
- Pwyntie i'w profi yn erbyn Iwerddon
- Brwydr yn yr Eidal a gêm anferth i ddod!
- Antur Azzurri
- Cwpan Magners a Chwpan y Byd 7 Bob Ochr i Gymru!
- Dod dros Baris - mewn sawl ffordd
- 24 awr ym Mharis ond dychwelyd yn waglaw
- À Paris, mes amis!
- Caerdydd a Pharis - hanes dwy brifddinas
- Symud ymlaen - Caerdydd a Chwpan Magners
- Nid ar chwarae bach mae cael pen mawr!
- Taro'r Tri yn erbyn y Saeson?
- Y Ffordd ar Gau
- Rhys Evans - Ffan ar y Ffordd
Blogiadur Chwe Gwlad
24 awr ym Mharis ond dychwelyd yn waglaw
Wel, dim Camp Lawn y flwyddyn hon yn anffodus!! Gutted! Er i ni drafaelu yr holl ffordd i Baris, colli o'dd hanes y tîm. Ond ro'dd hi'n nos Wener wych i'r cefnogwyr ym mhrif ddinas Ffrainc. Mewn 24 awr on ni wedi trafaelu o Gaerdydd i Baris wrth ddefnyddio 6 gwahanol fath o gludiant. I ddechre: Mega Bus o Gaerdydd i Lundain; trên o Victoria i ardal tu fas i Lunden; car i Folkestone i ddal y Channel Tunnel. Wedyn drifo'r holl ffordd i Baris, checko mewn i'r hostel cyn dala bws i'r stadiwm a Métro i ganol y ddinas ar ôl y gêm. Lwcus i fi on i ddim yn drifo a felly yn gallu yfed yr holl ffordd - felly on i'n gocls erbyn i'r gêm ddechre.
Ro'dd yr awyrgylch ym Mharis yn wych, 'da cannoedd o gefnogwyr Cymru wedi casglu i ganu tu fas i dafarne'r ddinas. Ar sawl achlysur o'dd y bois i gyd ar ben fordydd yn canu amrhyw o ganeuon fel Sosban Fach, Cwm Rhondda a Myfanwy, ac wrth gwrs y pièce de résistance: Hen wlad fy Nhadau. O'dd pawb yn amlwg yn mwyhau ac yn boddi ymgeision y Ffrancwyr i ganu.
On ni wedi bod yn siarad trwy'r dydd am bwy mor od o'dd hi bod ni mynd i wylio Cymru yn whare ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad ar nos Wener, ond pan gyrraheddon ni'r stadiwm, sylweddoles i bod yr achlysur yn un spesial. Rwy wedi bod yn ddigon lwcus i wylio Cymru yn curo yr Ariannin yng ngêm gynta' Stadiwm y Milleniwm, Cymru yn maeddu Lloegr yng ngêm gynta'r Gamp Lawn yn 2005, a hefyd wrth i Gymru faeddu'r Ffrancod yng Nghaerdydd llynedd i ennill y Bencampwriaeth. Rhai o'r geme gore i fi weld, lle ro'dd sŵn y dorf yn fyddarol - ond nos Wener, ro'dd yr awyrgylch ym Mharis yn unigryw. Ro'dd 80,000 o gefnogwyr wedi eu gwasgu i mewn i'r stadiwm, ac o'r gic cynta' ro'dd yr awyrgylch yn drydanol. Ro'dd sŵn cefnogwyr Ffrainc yn boddi'r Cymry, ffactor fi'n siŵr gafodd effaith ar chwaraewyr Cymru, ond yn fwy allweddol, a sbardunodd chwaraewyr Ffrainc. Roedd gwylio gêm mor hwyr ar nos Wener yn wahanol, ond ma' rhaid i fi weud, yn brofiad arbennig iawn.
On i'n meddwl dechreuodd Cymru yn eitha' da i feddwl am y pwyse o'dd ar y chwaraewyr. Da'th y trobwynt ar ôl i Ffrainc sgorio eiliadau cyn hanner amser, achos gododd cynffone'r Francwyr, codi hefyd wnaeth y dorf a does dim tîm yn y byd yn gallu maeddu Ffrainc yn y fath sefyllfa. Fel ma tîm Seland Newydd wedi profi mewn geme Cwpan y Byd, unwaith ma' Ffrainc yn mynd ar y blaen ac yn dechre whare'n dda, gyda'r dorf yn eu hannog ymlaen, mae bron yn amhosib eu maeddu. Ar ddechre'r gêm, on i mor hyderus y bydde Cymru yn ennill. Am ryw reswm, o'dd popeth yn pwynto tuag at fuddugoliaeth i Gymru, ond yn anffodus efallai, o'dd pawb yn rhy hyderus, ac yn trial gormod ar adegau lle pwyll falle o'dd yr ateb, a chadw at strwythr lwyddianus y tîm. Er mae'n rhaid gweud, o'dd y Ffrancwyr yn haeddu ennill a bydde sgori ym munudau ola'r gêm wedi bod yn annheg.
A'th hi'n eitha fflat ar ôl i ni golli, gyda lot o'r Ffrancwyr yn chwifio baneri a chanu 'Allez, les bleus' ar ôl eu llwyddiant. Dilynon ni'r torfeydd i'r Métro a thrafaelu i mewn i ganol Paris i fwynhau yr amser byr o'dd da ni ar ôl yn y ddinas. 'Na le ma'n atgof i yn gorffen yn anffodus, achos gwmpes i i gysgu yn y dafarn nesa' achos y cwrw, neu efallai ffeinto ar ôl talu am rownd o 5 pint a gostodd 40 euro!!!! Penwythnos gwych felly, tebyg iawn i'r hen film 'Grand Slam' - digonedd o fwynhâd ar wahân i sgôr y gêm!!!
Fel ma Adrian Chiles yn neud ar Match of the Day 2:
2 Good - gorfod ca'l fy nghario gatre i'r hostel ar ddiwedd y noswaith + mwynhau'r awyrgylch 'da'r bois.
2 Bad - torri golau ar do y Métro wrth gicio pêl wedi'r gêm + gorfod talu 90 euro i'r heddlu am yrru yn rhy gyflym wrth geisio ddala'r Channel Tunnel.
Penwythnos grêt!!!
Rhys






