Nodion cyn nawr
- Diwedd y daith
- Pwyntie i'w profi yn erbyn Iwerddon
- Brwydr yn yr Eidal a gêm anferth i ddod!
- Antur Azzurri
- Cwpan Magners a Chwpan y Byd 7 Bob Ochr i Gymru!
- Dod dros Baris - mewn sawl ffordd
- 24 awr ym Mharis ond dychwelyd yn waglaw
- À Paris, mes amis!
- Caerdydd a Pharis - hanes dwy brifddinas
- Symud ymlaen - Caerdydd a Chwpan Magners
- Nid ar chwarae bach mae cael pen mawr!
- Taro'r Tri yn erbyn y Saeson?
- Y Ffordd ar Gau
- Rhys Evans - Ffan ar y Ffordd
Blogiadur Chwe Gwlad
Dod dros Baris - mewn sawl ffordd
O'r diwedd fi wedi llwyddo i ddod dros y trip byr i Ffrainc!! O'n i dal yn teimlo'n hungover nos Fawrth!!! O'dd e'n anodd mynd 'nôl i'r gwaith ddydd Llun, yn enwedig wybod bod pythefnos arall i aros nes y gêm nesa' yn erbyn Yr Eidal - o'n i'n depressed bwys.
Beth chi'n meddwl o'r tîm, 'de? 10 o newidiade ar ôl y golled wythnos diwethaf ym Mharis. Y newid mwya' i fi yw'r penderfyniad i newid yr haneri, 'da Hook a Peel yn ca'l eu siawns i ddisgleirio. Whare teg, ma' Peel wedi edrych yn siarp wrth ddod mla'n fel eilydd ym mhob gêm mor belled. Gobeithio geiff e ddim anaf wrth whare i Sale ar y penwythnos. Fi'n credu bod e'n whare ychydig yn well na Phillips ar y foment.
Ma' fe'n amlwg bod Gatland wedi penderfynu rhoi hoe i chwaraewyr fel Martyn Williams, Gethin Jenkins a Shanks cyn y gêm dyngedfennol yn erbyn Iwerddon yr wythnos ganlynol. Er, fi'n siŵr bydd yr Eidalwyr yn edrych ar y gêm fel siawns i ennill ychydig o hunan barch ar ôl dechre gwael i'r Bencampwriaeth, yn enwedig ar ôl gweld y newidiadau i gyd i dîm Cymru. Gobeithio bod Gatland ddim yn mynd i ddifaru'r penderfyniad i orffwys ei chwaraewyr gore. Ni wedi gweld Cymru yn colli mas yn Rhufain ar ddau achlysur, felly gobeithio gwelwn i ddim yr un peth yn digwydd wythnos nesa'! Er, fi'n credu bod gormod o dalent 'da chwaraewyr Cymru, ac wrth weld y fainc, bydd gan Gatland ddigon o arfau i anfon ar y maes os bydd pethe'n mynd yn wael.
Ma' rhaid fi weud, ma' fe'n grêt gweld Alun Wyn Jones yn cael siawns i fod yn gapten ar y tîm ar ôl whare yn wych cyn belled y flwyddyn hon. Ma'r rhinwedde i gyd 'da fe i fod yn gapten, yn enwedig am y dyfodol i Gymru. Welwn ni hyd yn oed fwy o emosiwn wrth iddo ganu'r anthem, gyda chwpwl o ddagre fi'n siŵr.
Bydden i wedi hoffi gweld mwy o'r tîm yn ca'l siawns i whare i'w clybie penwythnos hyn hefyd, gyda dim ond Bishop yn ca'l ei ryddhau i whare Leinster yn y Liberty. Bydd yn gêm fawr i'r Gweilch yn eu hymgais i ennill Cwpan Magners, gyda Leinster yn gyfartal ar yr un pwyntiau. Bydd yn siawns i wylio 'dress rehersal' wrth i dîm o Iwerddon whare tîm o Gymru cyn y gêm fawr yng Nghaerdydd ymhen pythefnos. Falle bo' fi'n dechre mynd yn rhy optimistaidd heb i ni guro'r Eidalwyr, ond bydd yn benwythnos arbennig iawn yng Nghaerdydd os bydd y ddwy wlad yn mynd am y Bencampwriaeth, yn enwedig os bydd Iwerddon yn mynd am y Grand Slam - bydd y Cymry moyn sbwylio'r parti fi'n siŵr.
Penwythnos bach tawel i fi felly cyn y ddwy gêm ola' ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad. Gwylio'r geme rhanbarthol i gyd yn y fflat newydd fi'n credu, a falle mentro i'r dafarn i wylio tam' bach o bêl-droed. Gobeithio cewch chi benwythnos da!! Siarada i 'da chi eto wythnos nesa'.
Rhys






