Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad 2009

Ymateb Brynmor Williams

Brymor Williams

Yr Eidal v Cymru

Wel roedd hi'n anfoddhaol a dweud y lleiaf. Roedd y chwarae'n lletchwith ac roedd y pac yn wan yn erbyn blaenwyr Yr Eidal. Yn syml, roedd yna ormod o newidiadau. Rwy'n gallu deall pam fod Gatland yn ceisio datblygu'r garfan - ond ai dyma'r lle? Yng nghanol Pencampwriaeth fel hyn? Dylen ni fod wedi mynd allan i Rufain a rhoi crasfa iddyn nhw i fod yn gwbl onest. Ond efallai bydd mynd mewn i'r gêm yn erbyn Iwerddon fel underdogs yn rhoi hwb ychwanegol i'r bois.

Carfan Cymru v Iwerddon

Gavin HensonDyw hi ddim yn sioc fawr fod Warren Gatland wedi gwneud cymaint o newidiadau i wynebu Iwerddon, sy'n edrych am Gamp Lawn yng Nghaerdydd dydd Sadwrn.

Mae Gatland yn ffan o Gavin Henson ac yn hoff o'r ffordd mae'n chwarae. Rwy'n cytuno fod Henson yn dalentog iawn ond mae'n hen bryd iddo ddechrau profi ei hun nawr a chyfiawnhau'r dewis.

Mae partneriaeth brofiadol Henson a Shanklin yn edrych yn addawol iawn, gyda'r ddau wedi chwarae ochr yn ochr yn ystod Camp Lawn 2005 a 2008. Ond er mwyn iddyn nhw allu creu effaith, mae'n dyngedfennol fod nhw'n cael y meddiant. Mae cyfrifoldeb mawr ar y pac i sicrhau hyn.

Rwy wedi synnu nad yw Leigh Halfpenny yn y garfan - mae'n chwaraewr hyblyg iawn ond efallai braidd yn ddibrofiad ar y lefel yma y m marn Gatland.

Dyw Jonathan Thomas ddim wedi cael lot fawr o rygbi yn ddiweddar yn sgil anafiadau, felly dyw'r penderfyniad i'w adael e mas o'r garfan ddim yn fy synnu i. Er, rwy'n credu ei fod yn chwaraewr talentog dros ben.

Gêm Cymru v Iwerddon

Rwy'n ffyddiog ein bod ni'n mynd i ennill ddydd Sadwrn, mae'r gallu i ennill gyda ni. Cawson ni sioc wrth chwarae yn erbyn y Saeson a'r Ffrancwyr ond rwy'n credu fod y garfan yma'n gryf iawn ar bapur ac yn brofiadol dros ben, felly ddylai'r Gwyddelod ddim ag achosi gormod o broblemau.

Cyhoeddi garfan Cymru

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales