Derwyn Jones

Mae'r Bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg yn y fantol o hyd wrth i Gymru herio'r Eidal yr wythnos nesa' , er bod gobeithion Cymru am ail Gamp Lawn wedi dod i ben ym Mharis. Roedd cyn-glo Cymru, Derwyn Jones, yno fel aelod o dîm cyflwyno S4C, a bydd y brodor o Bontardulais hefyd yn hedfan allan i Rufain erbyn prynhawn dydd Sadwrn 14 Mawrth i weld brwydr Rufeinig Cymru.
-
Beth ddigwyddodd i Gymru yn y gêm yn erbyn Ffrainc?
Roedd yna fwy o angerdd ym mherfformiad Ffrainc yn ystod y gêm ddiwethaf. I fod yn deg, roedd lot o bwysau ar garfan Ffrainc, ac ar yr hyfforddwr Marc Lièvremont, gan y cyfryngau allan yn Ffrainc cyn mynd mewn i'r gêm. Roedd yna sôn fod dyfodol ansicr gyda fe os bydden nhw wedi colli i Gymru. Ar ddiwedd y gêm, roedd yr ymateb ar gae'r Stade de France yn anhygoel, gyda'r garfan yn dathlu fel petaent wedi ennill Cwpan y Byd.
-
Beth sydd yn rhaid gwneud wrth wynebu'r her allan yn Rhufain ar 14 Mawrth?
Mae'r Eidal yn cael Pencampwriaeth wael - dydyn nhw ddim wedi ennill hyd yn hyn. Ond mae'n rhaid i Gymru chwarae'r bêl gyflym a defnyddio'r bêl greadigol i'w gwneud hi'n anodd i'r Eidal. Mae'n rhaid bod yn ofalus hefyd o sgrym Yr Eidal achos dyma lle maen nhw'n gryf iawn. Mae'r blaenwyr yn hoff o arafu'r bêl, sy'n rhoi mwy o bwysau ar garfan Cymru i chwarae'r bêl gyflym.
-
Pa chwaraewyr wyt ti'n gobeithio gweld yn dechrau yn erbyn Yr Eidal?
Rwy'n credu bydd Warren Gatland yn penderfynu newid rhai safleoedd ar gyfer y gêm. Yn bersonol, bydd yn braf gweld yr haneri yn newid - gyda Dwayne Peel a James Hook yn dychwelyd nôl i'r garfan. Mae Peel yn chwaraewr o safon uchel ac mae'n hoff o chwarae'r bêl gyflym tra bod Mike Phillips ar y llaw arall yn araf yn dod â'r bêl allan o'r sgarmesi ar brydiau. Ond gyda Peel a Hook yn y garfan, mae'r ddau yn gallu creu problemau mawr i garfannau eraill.
-
Dyw Cymru ddim wedi cael llawer o lwyddiant yn Rhufain yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gyda'r garfan yn colli dwywaith ar dri ymweliad. Fydd yr ystadegau yma'n effeithio ar feddwl Cymru?
Ddim o gwbl - mae'r tîm hyfforddi yn gwbl wahanol i'r rhai wnaeth golli allan yn Rhufain. Mae yna gydbwysedd o hyder a gor-hyder nawr sy'n dda i gael mewn unrhyw garfan. Sa i'n gweld hyn yn gael lot fawr o effaith.
-
Mae sôn y gall timau rhanbarthol Yr Eidal ymuno â Chynghrair Magners yn y dyfodol. Pa fath o effaith fyddai hynny'n ei gael ar rygbi Cymraeg ac ar rygbi Eidaleg?
Rwy'n credu fod hi'n syniad da i groesawu'r timau rhanbarthol i chwarae yng Nghynghrair Magners. Ond bydd yn rhaid i Uwch Swyddogion y Gynghrair helpu'r clybiau i godi'r arian achos am un peth, bydd hi'n ddrud i deithio 'nôl ac ymlaen i'r Eidal - i'r clybiau ac i'r cefnogwyr sy'n mentro allan yno. Yn sicr bydd hwn yn helpu'r Eidal i wella safon drwy chwarae yn erbyn timau safonol iawn o wythnos i wythnos, ond dwi ddim yn gweld beth yw'r fantais i rygbi yng Nghymru ar hyn o bryd. Fydd safon chwarae timau'r Eidal ddim cweit cystal i ddechrau - bydd yn cymryd amser iddyn nhw ddatblygu.
