Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad 2009

Barn yr Arbenigwr

Gwyn Jones 5 Chwefror 2009

Mae her Yr Alban yn Murrayfield wedi ein cyrraedd unwaith yn rhagor. Bob yn ail flwyddyn rydym yn mynd i fyny i Gaeredin yn meddwl: "Rydyn ni'n siŵr o ennill eleni" ond yn fwy aml na pheidio, rydym yn dychwelyd i Gymru a'n gobeithion wedi eu chwalu.

Bu llawer o drafodaeth yn y wasg dros yr wythnosau diwethaf am ba mor anodd fydd hi yn y gêm agoriadol i Gymru, ond dyw hi ddim mor anodd â Lloegr yn Twickenham flwyddyn yn ôl.

Ond eleni, rwy 'n bendant yn credu fod gennym ni garfan sy'n well na charfan Yr Alban - a charfan gorau'r bencampwriaeth, ar bapur o leiaf.

Diolch byth, mae yna hen ysgwyddau profiadol sydd wedi profi ac ymdopi â disgwyliadau uchel yn y gorffennol - Gatland ac Edwards. Maen nhw'n gwybod fod ffefrynnau yn gwneud pethau'n fwy anodd a bod angen fwy o ymdrech, manylrwydd a chryfder seicolegol.

Mae carfan Cymru yn drawiadol iawn. Mae gennym ni flaenwyr deinamig iawn sy'n gallu cario'r bêl, unigolion sy'n gallu torri trwy'r gwrthwynebwyr, a chwaraewyr cyfrwys sy'n gallu gwneud penderfyniadau. Mae yna ysbryd diffuant yn y garfan. Ond yn fwy na hyn, maen nhw'n hyderus, y nodwedd honno sy'n gallu newid colled tynn i fuddugoliaeth dynn. Mae'r garfan yn llawn talent ac yn byrlymu gyda hyder, cyfuniad ddylai fod yn ddigon erbyn 5 o'r gloch brynhawn dydd Sul.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales