Nodion cyn nawr
Barn yr Arbenigwr
Gwyn Jones 12 Chwefror 2009
Yn dilyn buddugoliaeth gadarn dros Yr Alban ddydd Sul, yr unig gwestiwn fydd yn bwysig i fwyafrif cefnogwyr Cymru ydy: pwy fydd yn y tîm sydd am guro Lloegr ddydd Sadwrn.
Cyn gêm Yr Alban, roeddwn i'n poeni y byddai absenoldeb Ryan Jones yn arwyddocaol. Doedd e ddim. Llwyddodd Dafydd Jones i roi perfformiad cyflawn a wnaeth y garfan ddim dioddef o gwbl.
Chwaraeodd Cymru'n llyfn yn eu patrwm sefydlog, a oedd yn rhy gryf ac yn rhy bwerus i'r Alban. O bryd i'w gilydd, roedd diffyg angerdd yn y gêm, ond roedd hynny yn bennaf am fod y gwrthwynebwyr yn methu ymdopi â'r her. Roedd e'n edrych yn hawdd, er nad oedd e mewn gwirionedd. Nawr rydyn ni'n disgwyl canlyniadau profion ffitrwydd terfynol ar Shane Williams, Ryan Jones a Gavin Henson cyn i Gatland gyhoeddi pwy fydd yn camu ar y cae i guro Lloegr.
Ar y llaw arall, roedd Lloegr yn edrych yn anesmwyth iawn yn eu buddugoliaeth dros Yr Eidal. Dyw eu perfformiad ysbeidiol a welson ni yn yr hydref ddim wedi cael ei loywi o gwbl, ac mae eu hanallu i ddatblygu strategaeth gydlynol yn pwysleisio'r diffyg cyfeiriad sydd wrth wraidd eu problem.
Yn y blynyddoedd cyn i Martin Johnson fod yn gapten y tîm cenedlaethol, roedd Lloegr yn dîm o safon a oedd yn chwarae rygbi da, ond roedden nhw'n rhy dueddol o golli gemau allweddol wrth geisio ennill y Gamp Lawn. Pan ddaeth Johnson i'r fei, daeth y tîm yn llawer mwy didostur. Doedden nhw ddim mor eang yn eu gêm ond roedden nhw'n hynod effeithiol. Fel y gwelson ni ar daith y Llewod yn 1997, Cwpan y Byd 2003 a thrwch llwyddiant y Tigers yn y Cwpan Heineken, athreuliad oedd dull y dyn mawr. O dan bwysau fel y rheolwr nawr, mae Johnson yn dychwelyd i'r hyn mae'n ei adnabod orau - rygbi caled, bygythiol, treiddgar.
Ond dwi'n credu y dylen ni ddisgwyl perfformiad llawer mwy ymroddedig gan Loegr dydd Sadwrn. Fydd eu sgarmes ddim mor druenus ag un Yr Alban ac mae eu lein yn gryf. Bydd y gwrthdaro ar y llinell fantais yn ysgwyd y chwaraewyr i'r carn a bydd rhaid ennill y pwyntiau trwy lafur a chwys.
Wedi dweud hynny, mae tîm Cymru'n un gwell, ac os gallan nhw gyflawni eu potensial, fe ddylen nhw ennill. Her fwyaf Gatland fydd y paratoi meddyliol Mae Cymru'n hyderus, ac mae ganddyn nhw hawl i fod, ond mae angen paratoi trylwyr ar gyfer gêm fwyaf corfforol Pencampwriaeth y Chwe Gwlad. Mae rhai chwaraewyr yn y crys coch wedi mynd yn rhy emosiynol yn y gorffennol, a bydd targedu'r cyffro a’r adrenalin i'r union lefel iawn yn anodd.
Dwi'n meddwl mai Cymru fydd yn fuddugol, ond dwi ddim yn disgwyl iddi fod yn fuddugoliaeth hawdd. Dwi'n meddwl y bydd llai nag un sgôr ynddi tan y diwedd a bydd angen i ni i gyd gadw'r ffydd. Fe ddylen ni wneud - mae Cymru'n dîm da ar hyn o bryd, a gyda'r fantais o fod gartref, bydd angen perfformiad arbennig i'w curo nhw. O'r hyn dwi wedi ei weld hyd yn hyn, nid Lloegr yw'r tîm all wneud hynny.
