Nodion cyn nawr
Barn yr Arbenigwr
Gwyn Jones 12 Mawrth 2009
Dyw'r Eidal ddim yn dîm da. Er bod ganddyn nhw bac ymosodol, dy'n nhw ddim yn gallu cael y gorau ar y gwrthwynebwyr bellach am nad ydynt yn gallu gyrru ymlaen o'r lein. Maen nhw'n dal yn ceisio chwilio am chwaraewyr i ddilyn ôl-traed yr haneri Troncon a Dominguez bedair blynedd ar ôl i'r bartneriaeth hynny ddod i ben.
Roedd y trip i Rufain ar un adeg yn datblygu'n gryn brawf i dimau eraill Pencampwriaeth y Chwe Gwlad ond mae bellach mewn peryg o droi'n drip hamddenol o weld dinas drawiadol sydd yn digwydd cynnwys 80 munud o adloniant rygbi ysgafn.
Efallai bod hynny ychydig yn llawdrwm ar yr Eidalwyr o ystyried eu bod wedi'n curo ddwy waith yn y pum tymor diwethaf a hynny ar adeg pan mae Cymru wedi cyflawni dwy Gamp Lawn. Ond dyw e ddim yn annheg yn fy marn i gan nad wyf yn teimlo bod Yr Eidal wedi symud yn eu blaen mewn unrhyw ffordd. Maen nhw'n edrych yn dîm blinedig sy'n ei chael hi'n anodd cystadlu gyda'r timau o'u cwmpas.
Wrth edrych ar y ffordd y mae'r Eidal yn chwarae yn ddiweddar, dwi'n gweld gwendidau ym mhob agwedd ar y chwarae. Am gyfnod o rai blynyddoedd, fe lwyddodd yr haneri clyfar Troncon a Dominguez i roi cyfeiriad i'r tîm a chuddio gwendidau cyffredinol y tîm. Ond pe bai'r ddau'n dal i chwarae heddiw, dwi'n meddwl y bydden nhw'n cael trafferth yn codi gêm y garfan bresennol.
Dwi'n cydnabod bod y tîm y mae Gatland wedi'i ddewis yn fy synnu braidd. Roedd yn fwy o syndod fyth ei glywed yn dweud y byddai wedi gwneud mwy fyth o newidiadau pe bai Cymru wedi ennill ym Mharis. Faint o newidiadau yr oedd e wedi bwriadu eu gwneud tybed? Gwell I mi nôl y sgidiau rygbi o'r cwpwrdd rhag ofn!
Dwi ddim yn credu y bydd y canlyniad ddydd Sadwrn yn synnu neb. Yr unig ffordd y gall yr Eidal greu sioe yw trwy sgorio'n gynnar, cael lot fawr o lwc neu elwa o ddyfarnu gwael. Hyd yn oed wedyn, byddai'n rhaid i chwaraewyr Cymru gael llond gwlad o gardiau melyn neu garden goch neu ddwy i roi unrhyw obaith i'r Eidal.
Mae Cymru yn dal yn dîm da er iddyn nhw golli yn Ffrainc. Mae'n hen bryd inni fod yn hyderus fel cenedl a theimlo ein bod yn gallu mynd oddi cartre' ac ennill. Mae Seland Newydd, De Affrica ac Awstralia yn llawn hyder pan maen nhw'n chwarae draw yma. Mae hynny'n wahanol i orhyder (gwendid yr oedd Lloegr arfer ei ddangos). Fe ddylent allu credu yn eu gallu.
Dwi'n meddwl y bydd Cymru'n ennill gan 15 pwynt o leiaf. Byddai hynny'n rhoi hwb fawr i'r gwahaniaeth pwyntiau cyn i bawb droi eu sylw at y gêm dyngedfennol yn erbyn Iwerddon wythnos nesa'.
