Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad 2009

Barn yr Arbenigwr

Gwyn Jones 19 Mawrth 2009

Dyma'r gêm sy'n cyfri…

Felly mae'r cyfan nawr yn dibynnu ar 80 munud o rygbi. Hyn fydd yn penderfynu a fyddwn yn cofio Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2009 fel ymgyrch lwyddiannus neu fel methiant. Y Goron Driphlyg, y Bencampwriaeth neu dymor gwaglaw. Dyna'r realiti fydd yn ein hwynebu ar ôl y chwiban olaf nos Sadwrn.

Ydy Gatland yn gwneud ei waith?

Er gwaetha'r ffaith bod Cymru mor agos at gipio Pencampwriaeth arall, mae statws eiconig Gatland wedi pylu yng ngolwg y gymuned rygbi yng Nghymru. Mae ei ddulliau'n cael eu cwestiynu, eu cynllunio o dan y chwyddwydr a'i ddiffyg hyblygrwydd yn destun pryder. Mawredd, does dim dal gyda ni'r Cymry. Dylen ni gofio am y cyfnod tywyll cyn dyddiau Gatland. Aeth Cymru mas o Gwpan Rygbi'r Byd 2007 yn gynnar iawn ac roedd ein perfformiadau ni'n siomedig tu hwnt. Yr unig beth roedden ni eisiau oedd cael ein parchu ac fe fethodd y tîm ag ennyn unrhyw barch. Weithiau rwy'n meddwl ein bod ni wedi anghofio pa mor boenus oedd y profiad hwnnw.

Mae Gatland wedi llwyddo i gyflawni cymaint mwy na hynny. Mae yna falchder unwaith eto'n gysylltiedig â gwisgo'r crys coch, ac mae eraill yn edmygu arddull chwarae Cymru gan geisio ei efelychu. Ond ar ôl dau berfformiad a fethodd argyhoeddi, ac er mai dim ond un gêm gollon ni, mae pobl yn dechrau cwestiynu Gatland a'i dactegau. Maen nhw am wybod beth yw'r cam nesaf i'r tîm ac yn ofni mai hwn yw diwedd y daith. Ydy'r gwrthwynebwyr wedi dod o hyd i ffordd o ddatod patrwm chwarae Gatland?

Arddull Chwarae

Rwy'n meddwl ei bod yn amhosibl ateb y cwestiwn hwnnw ar sail y gemau yn erbyn Ffrainc a'r Eidal. Methodd Cymru â rhoi'r patrwm chwarae ar waith yn y ffordd gywir. A bod yn onest, ni fyddai wedi gwneud unrhyw wahaniaeth pa arddull yr oedden nhw'n ceisio ei chwarae, roedd llawer ormod o gamgymeriadau ta beth. Dyw arddulliau chwarae ddim o unrhyw werth oni bai eu bod yn cael eu gweithredu'n iawn. Safon y chwarae sydd wedi bod ar fai yn hytrach nag unrhywbeth arall.

A all Cymru ennill?

Dwi ddim yn meddwl bod yna ryw lawer o le ar y ffordd yr ydym yn ceisio chwarae. Ond mae angen addasu'r tactegau ychydig bach. Er enghraifft, mae Cymru wedi bod yn gyndyn o ddefnyddio'r dacteg o ailgylchu'r bêl yng nghanol y cae. O ganlyniad, mae timau eraill wedi bod yn hel lot o'u chwaraewyr i'r ryciau er mwyn arafu'r bêl. Bydd yn rhaid i Gymru aberthu ambell olwr er mwyn ailgylchu'r bêl yn gyflymach. O safbwynt y gêm gicio, byddwn yn rhoi stop ar unrhyw giciau pwt neu gicio byr. Os yw Cymru'n cicio'r bêl yn hir, rhaid i'r bêl fynd mor bell lawr y cae ag sy'n bosibl. Os ydyn ni'n cicio'r bêl yn uchel, rhaid ein bod yn gallu adennill y bêl o'r awyr.

Mae Cymru ac Iwerddon yn ddau dîm eitha' cyfartal o ran gallu, rwy'n rhagweld y bydd y gwahaniaeth rhwng y ddau dîm yn eitha' bach. Dwi'n disgwyl gêm yn llawn tensiwn a dwyster yn y chware nad ydyn ni wedi eu gweld yn yr un gêm arall yn y Bencampwriaeth.

Rwy'n rhagweld …

Bydd y gêm yn un gyflym a chaled, gyda thipyn o gicio. Ydyn ni'n fodlon stopio'n cefndryd Celtaidd o ben arall Môr Iwerddon rhag cipio eu Camp Lawn gyntaf ers dros drigain mlynedd? O, ydyn! Rydyn ni moyn y Goron Driphlyg, ac erbyn diwedd y gêm nos Sadwrn, rwy'n rhagweld y bydd y Goron yn nwylo Cymru. Fe fydd yn rhaid i Iwerddon fodloni ar y Bencampwriaeth. Gallwn ni wneud hynny drostyn nhw, o leiaf!

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales