Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad 2009

Cyhoeddi tîm Cymru - Ymateb Huw

Huw Llywelyn

"Yn sicr doeddwn i ddim yn disgwyl cymaint o newidiadau gan mai un o nodweddion amlwg Warren Gatland ers iddo ddechrau hyfforddi Cymru yw cysondeb yn y dewisiadau. Mae'r hyfforddwr wedi penderfynu newid cyfeiriad yn llwyr. Ond nid ymateb i'r golled ym Mharis yw hyn - fe ddywedodd e cyn y gêm Ffrainc ei fod yn bwriadu newid ychydig ar y tîm.

Gavin HensonMae gan Yr Eidal bac eithaf cryf. Dyma yw nerth traddodiadol ei garfan nhw. Yn John Yapp, Luke Charteris a Rhys Thomas, mae Gatland wedi dewis tri allan o bump yn y pac sydd ddim wedi cael cymaint â hynny o brofiad ar y lefel ryngwladol. Felly, bydd yn ddiddorol gweld sut mae'r blaenwyr yn ymdopi.

Dwayne Peel"Mae wedi dewis tîm creadigol ac mae hynny'n golygu lle i Peel fel mewnwr. Mae ganddo ddwylo cyflymach na Mike Phillips, yn fy marn i. Mae hefyd wedi dewis James Hook a Gavin Henson, dau sy'n gelfydd gyda'r bêl yn eu dwylo. Yn realistig, mae'n rhaid gobeithio am ennill gan o leiaf 30 o bwyntiau dros Yr Eidal er mwyn cael unrhyw obaith o gipio'r bencampwriaeth dros y penwythnos olaf.

"Un peth arwyddocaol imi yw'r penderfyniad i ddewis Alun-Wyn Jones fel capten. Mae'n ifanc, profiadol ac yn ennyn parch pawb ar y cae rygbi. Wrth siarad gyda Warren Gatland ar ôl cyhoeddi'r tîm, fe ddywedodd e ei fod wastad wedi gweld Alun-Wyn fel arweinydd a chapten Cymru yn y dyfodol. Pwy a ŵyr beth fydd hyn yn golygu i Ryan Jones yn y pen draw?

Cyhoeddi garfan Cymru

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales