Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad 2009

Nigel Owens

alt text

Mae llwyddiant Cymru ym Mhencampwriaeth Rygbi 7 Bob Ochr y Byd yn argoeli'n dda ar gyfer y Chwe Gwlad ac mae'r dyfarnwr Nigel Owens, un o sêr sioe adloniant Bwrw'r Bar, yn edrych ymlaen at ddiweddglo cyffrous.

Ymateb Nigel i fuddugoliaeth Cymru yng Nghwpan y Byd 7 Bob Ochr:

SevensFues i'n dyfarnu ar y gylchdaith Saith Bob Ochr am bedair blynedd ac fe fwynheais i'r profiad yn fawr. Yn fy amser i yno, doedd Cymru fel Undeb ddim yn cymryd y gystadleuaeth o ddifri, ond erbyn hyn mae'n neis gweld Cymru'n cystadlu yn erbyn y timau gorau. Mae'r safon yn gwella bob blwyddyn.

Mae Rygbi Saith Bob Ochr yn gamp lle mae lot o'r chwaraewyr Undeb yn ennill profiad - gydag Andy Powell, Mike Phillips a James Hook i gyd yn datblygu eu sgiliau yn y gamp. Mae rygbi o'r math yma'n siwtio Cymru i'r dim.

Wrth edrych 'nôl ar y bencampwriaeth yn Dubai penwythnos diwethaf, roedd Cymru'n haeddu ennill y Cwpan oherwydd bod y tîm wedi llwyddo i faeddu carfannau cryf fel Seland Newydd, Samoa a'r Ariannin - timau sy'n draddodiadol yn chwarae Rygbi Saith Bob Ochr yn arbennig o dda ac sy'n cymryd y gystadleuaeth o ddifri.

Mwy am Cwpan y Byd 7 Bob Ochr

Nigel yn edrych ymlaen at ddiweddglo cyffrous i'r Chwe Gwlad:

v Yr Eidal

cupDwi ddim yn gweld hi'n gêm rwydd o bell ffordd ac rwy'n credu byddai'r bobl sy'n gweld hi'n rhwydd yn cael bach o sioc ar ddydd Sadwrn. Rwy'n credu y bydd Cymru'n ymdopi'n dda yn dilyn yr holl newidiadau. Mae'r garfan yn ymarfer gyda'i gilydd bob dydd felly does dim rheswm pam fyddai'n newidiadau yn amharu arnynt. Mae yna ddigonedd o dalent yn y garfan ac mae gan Gymru fainc gref a phroffesiynol iawn.

v Iwerddon

Rwy'n gweld Cymru v Iwerddon yn gêm allweddol. Rwy'n gweld Cymru'n ennill yn erbyn Yr Eidal gan adael y Bencampwriaeth a'r Goron Driphlyg yn y fantol yng Nghaerdydd. Rwy'n eithaf hyderus y gwnawn ni ennill yn erbyn Iwerddon a bod yn onest. Fe fydda i yno, beth bynnag, fel 'fourth official' ac rwy'n edrych ymlaen yn arw.

Alun Wyn Jones

Mae'n chwaraewr caled sy'n chwarae'n dda ym mhob gêm. Dyw e byth yn cael gêm wael. Mae'n fachan talentog, sy'n ddigon synhwyrol a chall i ddelio gyda'r pwysau ychwanegol o fod yn gapten.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales