Neidio at y cynnwys

S4C

Rygbi / Chwe Gwlad 2009

Gareth Roberts yn edrych ymlaen at y Bencampwriaeth

alt text

  • Faint o bwysau ychwanegol sydd ar y garfan nawr yn dilyn llwyddiant ysgubol y Gamp Lawn llynedd?

    Rob Howley, Warren Gatland a Shaun Edwards

    Mae pwysau aruthrol ar y garfan, yn enwedig wrth gofio'n ôl i Gamp Lawn 2005. Y tymor canlynol aeth pob dim ar chwâl wrth i Gymru colli'r Bencampwriaeth a'i hyfforddwr, Mike Ruddock. Ond dwi ddim yn gweld Warren Gatland, Shaun Edwards a Rob Howley yn caniatáu i hynny ddigwydd y tro hwn. Hefyd, fydda i ddim yn synnu os mai Cymru fydd yn cael eu hystyried fel ffefrynnau am y tro cyntaf ers cyn cof. Does dim amheuaeth fydd hyn yn ychwanegu at y pwysau.

  • A yw'r gystadleuaeth o fewn y garfan am safleoedd yn un iach neu beidio?

    O fewn carfan Cymru, mae yna elfen gystadleuol dros ben gyda'r chwaraewyr i gyd yn gosod safonau pendant i'w hunain. Mae'n andros o beth iach i gael y gystadleuaeth - does dim un lle yn ddiogel. Y peth am Gatland yw ei fod yn dewis chwaraewyr sy'n chwarae'n dda ar y pryd - roedd Leigh Halfpenny ac Andy Powell yn enghreifftiau perffaith o hyn yn ystod gemau'r hydref.

  • Beth am frwydr y mewnwyr?

    Mike Phillips

    Nawr fod Mike Phillips nôl, mae yna dri chwaraewr llawn cystal sy'n mynd i frwydro am grys rhif 9 Cymru. Mae'r gystadleuaeth yma'n un arbennig iawn yn fy marn i a bydd gan Gatland benderfyniadau mawr i'w gwneud am y safle. Cafodd Gareth Cooper y cyfle i serennu yng ngemau'r hydref a bydd yn edrych i ail-gydio yn y safle, tra bod Mike Phillips ond wedi bod nôl yn chwarae ers Nadolig - a fydd y diffyg chwarae yn effeithio ar ei siawns? A gallwn ni byth ag anghofio am Dwayne Peel hefyd, fydd yn ysu am le.

  • Beth sy'n rhaid i Warren Gatland a'r hyfforddwyr eraill ei wneud i gynnal yr un safon a'i chodi?

    Warren Gatland

    Bydd yn rhaid iddyn nhw gadw'r un elfen o gystadleuaeth o fewn y garfan - does dim un safle yn ddiogel. Dwin credu fod yn rhaid i'r chwaraewyr i gyd i osod targedau i'w hunain a pharhau i gyflwyno perfformiadau safonol. Rhaid gwthio'r safonau ymhellach er mwyn gallu cystadlu yn erbyn timau hemisffer y de hefyd. Gwnaeth y garfan hyn yn llwyddiannus dros ben yn erbyn Awstralia yn ystod gemau'r hydref, ond fe welson ni fod camgymeriadau di-angen yn erbyn De Affrica wedi pasio buddugoliaeth iddyn nhw ym munudau olaf y gêm. Dyma oedd cyfle euraidd yma i Gymru sicrhau buddugoliaeth yn erbyn Pencampwyr y Byd!

  • Pa chwaraewyr wyt ti'n disgwyl gweld yn serennu yng ngharfan Cymru?

    Gavin Henson

    Yn bersonol, dwin edrych ymlaen at weld Gavin Henson yn dychwelyd i'r garfan. Tra'n ei wylio dros gyfnod y Nadolig, ro'n i'n meddwl ei fod yn dangos agwedd ac ysbryd arbennig - roedd yn cymryd ei rygbi yn ddifrifol. Ond y cwestiwn mawr ydi - Lle ydych chi'n chwarae fo? Ydych chi'n ei osod fel cefnwr? Ar hyn o bryd, mae Lee Byrne yn hoelio'i le yn y safle yna. Beth am yng nghanol cae? Basa partneriaeth gyda Jamie Roberts yn un ffrwythlon dros ben yn fy marn i.

    Leigh Halfpenny

    Leigh Halfpenny

    Daeth y cefnwr o Orseinon mewn i garfan Cymru yn yr hydref oherwydd roedd yn chwarae'n dda ar y pryd. Roedd yn haeddu ei le yn llwyr. Y sialens nawr yw cynnal y safon yma. Mae Halfpenny wedi profi ei fod yn gallu addasu ei hun i'r llwyfan mawr ac i unrhyw sefyllfa ar y cae chwarae, boed yn chwarae allan o'i safle delfrydol neu yn sefyll mewn dros Byrne. Rhaid cofio fod Halfpenny yn chwarae yn Uwch Gynghrair Cymru tymor diwethaf ac mae ei ddatblygiad wedi bod yn aruthrol, fel Jamie Roberts blwyddyn ynghynt.

    Y Rheng ôl

    Mae yna frwydr fawr yn y rheng ôl ar hyn o bryd, gyda Ryan Jones a Jonathan Thomas (y Gweilch), a Martyn Williams ac Andy Powell (y Gleision) i gyd yn edrych i chwarae. Maen rhaid imi gyfaddef fod y capten Ryan Jones wedi cael cyfnod siomedig yng ngemau'r hydref, ond mae wedi llwyr profi fod ei safon wedi codi dros gemau'r Nadolig.

  • A yw'n anodd mynd i Murrayfield yn gyntaf?

    Bydd ymweliad Cymru â Murrayfield yn anodd iawn. Mae''n rhaid cofio fod Yr Alban ar i fyny ar hyn o bryd a wnaethon nhw ddod yn agos i guro De Affrica yng ngemau'r Hydref. Mae'r mewnwr, Mike Blair, yn chwaraewr ac arweinydd arbennig o dda a bydd yn disgwyl siomi'r Cymry sy'n teithio i Gaeredin.

© 2012 S4C
O Gymru / Made in Wales