Cyfweliad: Shane Williams

Roedd 2008 yn flwyddyn benigamp i'r asgellwr o Lanaman, ond tybed a fydd yr un ffawd yn disgwyl Shane Williams yn ystod y tymor rhyngwladol newydd? Wrth iddo ef a charfan Cymru baratoi ar gyfer her Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, mae'n sôn yn ddi-flewyn ar dafod am fygythiad Yr Alban yn Murrayfield, sêr ifanc Cymru a'r pwysau yn sgîl llwyddiant y Gamp Lawn.
-
A yw Cymru'n gallu ailgydio ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad?
Ar ôl inni ennill y Bencampwriaeth llynedd, bydd y bechgyn yn edrych i fynd allan a 'neud yr un peth flwyddyn hyn. Mae'r teimlad ar ôl ennill y Bencampwriaeth yn un arbennig iawn a fyddwn ni moyn yr un peth tro hyn. Bydd e'n galed - ni 'di bod yma o'r blaen, ar ôl ennill yn 2005 ac wedyn chwarae'n eithaf gwael y flwyddyn wedyn. Mae'n rhaid i ni godi'n pennau a chwarae'n dda ym mhob gêm. Mae unrhyw dîm yn gallu ennill y Bencampwriaeth yma, mae timau arbennig mas 'na a bydd rhaid i ni fynd mas a phrofi taw nid one-off oedd llynedd a'n bod ni'n gallu 'neud yr un peth eto.
-
Faint o bwysau ychwanegol sydd ar y garfan nawr yn dilyn llwyddiant ysgubol y Gamp Lawn llynedd?
Ma'r pwysau arnon ni, rydyn ni'n gwybod hynny. Ond ni 'di bod yma o'r blaen ac mae'n rhaid i ni nawr ganolbwyntio ar gemau'r Chwe Gwlad, cadw pen a chwarae rygbi fel ryn ni'n gallu. Os gallwn ni chwarae fel wnaethon ni yn erbyn Awstralia, gallwn ni ennill y Bencampwriaeth. Dangoson ni yng ngemau Seland Newydd a De Affrica ein bod yn gallu chwarae ambell i hanner yn eithaf da ac yna colli'r ffordd yn yr hanner arall – mae'n rhaid ini chwarae'r holl 80 munud er mwyn ennill y Bencampwriaeth.
-
Mae'r gystadleuaeth o fewn y garfan yn un anhygoel, gyda nifer o chwaraewyr safonol iawn yn brwydro am yr un crys. Wyt ti'n dechrau gweld y chwaraewyr ifanc fel bygythiad i dy le di?
Chi wastad yn edrych tu ôl chi i weld pa fois ifanc sy'n dod trwyddo. Ma' Leigh Halfpenny wedi gwneud yn arbennig o dda - daeth e mewn yng ngemau'r hydref a chreu argraff. Hefyd Tom James a Jamie Roberts - y chwaraewyr ifanc yma sydd â shwd gymaint i'w roi dros Gymru. Ar hyn o bryd, rwy jyst yn trio dal arno gymaint ag wy'n gallu a chwarae'r rygbi sy'n siwtio fi. Dyna'r unig beth alla i wneud.
-
Wyt ti'n gweld dy hun fel rhywun sy'n gallu rhoi cyngor iddyn nhw?
Gobeithio bo' nhw'n gallu cymryd rhywbeth mas o'r ffordd rwy'n chwarae a licen i feddwl bo nhw'n gallu gofyn i fi am gyngor a chymorth. Ma' nhw'n chwaraewyr eithaf gwahanol i fi ac yn eithaf ifanc ond mae yna lot o brofiad. Os wy'n gallu helpu'r chwaraewyr yma sy'n dod trwyddo, licen i wneud hwnna.
-
Fydd hi'n anodd teithio i Murrayfield yn gyntaf?
Mae wastad yn anodd chwarae oddi cartref ac mae Murrayfield yn y gêm agoriadol yn mynd i fod yn galed iawn. Ni 'di chwarae lan 'na sawl gwaith nawr a cholli rhan fwyaf o'r amser. Ni 'di dangos yn y gorffennol ein bod ni'n gallu ennill i ffwrdd - yn y Gamp Lawn yn 2005, lle wnaethon ni ennill tair gêm oddi cartref. Ni'n gwybod bod y bechgyn yn gallu 'neud e ond bydd rhaid ini chwarae'r un ffordd âg ŷn ni'n 'neud gartref. Mae'n anodd chwarae i ffwrdd o gartref ond i gystadlu yn y cystadlaethau yma, mae'n rhaid ennill oddi cartref. Os ydyn ni'n ennill y gêm gyntaf oddi cartref, mae'n setio ni lan i fynd ymlaen ac ennill y Bencampwriaeth unwaith eto.
-
Pwy yw'r bygythiad mwyaf yng ngharfan Yr Alban?
Mae'n dibynnu ar y garfan sy'n cael ei dewis, ond bydda i'n edrych mas am chwaraewyr fel Lamont a Webster. Rwy'n siomedig fod Nicky Walker wedi ei anafu – fyddai hwnna wedi bod yn frwydr a hanner gan ein bod ni'n dau yn chwarae dros y Gweilch. Felly bydda i'n cadw llygad ar yr asgellwyr – mae Simon Webster yn chwaraewr da iawn ac mae'n gweithio'n galed.
