S4C Cinio Caru
HAFAN   CYSTADLEUWYR   CYSTADLEUAETH   Y MAITRE D'   IAITH Y CORFF   CYNGOR CALL   DETS I'W HANGHOFIO   | english

Iaith y Corff

Agwedd ddiddorol ar y gyfres Cinio Caru yw'r ffordd mae'r cyplau yn ymateb i'w gilydd ar lefel gorfforol. Mae iaith y corff yn dweud cyfrolau heb i'r unigolion ddweud gair! Bydd seicolegydd ymgynghorol y gyfres, Dr Mair Edwards, yn rhoi sylw i hyn yn ystod y gyfres. Yma mae'n dadansoddi ymateb corfforol dau berson i'w gilydd wrth iddynt gyfarfod am y tro cyntaf ym mwyty Le Gallois yng Nghaerdydd...

Llun 1: Mae'r ferch a'r bachgen yn amlwg yn edrych ar ei gilydd ac yn dal cyswllt llygad da. Mae gwên ar wynebau'r ddau yn gyfeillgar, a drwy roi ei fawd tuag at ochr ei geg mae'r bachgen yn tynnu ei sylw at ei wyneb. Er hynny, mae osgo corff y ddau yn eithaf caeedig, gyda eu traed yn tynnu'n ôl oddi wrth ei gilydd, a dwylo a breichiau'r ferch yn rhoi ffin ar draws ei chorff?

*

Llun 2: Er bod y ferch yn gwenu, nid yw'n dal cyswllt llygad yn iawn a'r bachgen - mae hi'n edrych fymryn heibio iddo. Er bod osgo corff y ddau tuag at ei gilydd mae'r dwylo caeedig ar y bwrdd yn awgrymu eu bod ill dau am gadw ffin bendant.

*

Llun 3: Unwaith eto, mae'r ferch yn gwenu ond nid yw'n dal cyswllt llygad â'r bachgen, a mae ei braich chwith ar draws ei chorff. Mae'r bachgen ar y llaw arall yn edrych ar y ferch, a mae ei law chwith i un ochr yn dangos ei fod yn "agored". Mae osgo ei wydr gwin (tuag at y ferch) yn dangos ei fod yn "cynnig" ei ddiod - a'i hun - i'r ferch.

*

Llun 4: O diar! Cam gwag ar ran y bachgen! Wrth estyn ei law i' chyffwrdd mae o wedi dangos ei fod yn credu bod ganddo reolaeth ar y sefyllfa ac arni hi. Mae wyneb y ferch yn dangos yn glir "Na - dydw i ddim yn gyfforddus â hyn!".

*

Llun 5: Dim syndod felly yn y llun yma i weld bod y ferch wedi symud ei llaw o afael y bachgen, ac wedi symud ei chorff i droi oddi wrtho. Mae'r coesau wedi eu croesi oddi wrth y bachgen - a'r breichiau wedi plethu ar draws y corff. Mae'r olwg ar yr wyneb yn deud cyfrolau - "Rhy hy yn rhy fuan!".

*

Llun 6: Wel! Rhaid bod y bachgen wedi adfer y sefyllfa rhywsut oherwydd erbyn hyn mae'r ferch wedi troi yn ôl ato, a mae gwên ar ei wyneb eto, a mai'n pwyso 'mlaen fymryn tuag ato. Mae'r bachgen erbyn hyn yn gwenu ac yn dal cyswllt llygad. Mae osgo ei gorff tuag ati, a'i freichiau yn eithaf agored..

*

Llun 7: Wel! Wel! Mae pethau'n cynhesu! Mae'r ddau yn edrych i fyw llygaid y naill a'r llall, a gwên fechan ar wynebau'r ddau. Mae'r ddau yn estyn ymlaen tuag at y llall, ac yn adlewyrchu osgo corff y naill a'r llall. Mae'r ddau yn gafael llaw ac yn edrych yn gyfforddus â hyn. Mae pen y ferch yn gwyro mymryn i'r dde, a phen y bachgen yn gwyro fymryn i'r chwith - bron fel petai'r ddau yn barod am gusan fach!

*